Richard Baker

Darlledwr Seisnig; cyflwynydd newyddion BBC rhwng 1954 a 1982

Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu Seisnig oedd Richard Douglas James Baker OBE RD (15 Mehefin 192517 Tachwedd 2018).[1]

Richard Baker
Ganwyd15 Mehefin 1925 Edit this on Wikidata
Willesden Edit this on Wikidata
Bu farw17 Tachwedd 2018 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson milwrol, darlledwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Bywyd ac addysg gynnar golygu

Fe'i ganwyd yn Willesden, yn fab i Albert Baker a'i wraig Jane Isobel (ganed Baxter). Yn fab hynaf i blastrwr, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Kilburn ac yn Peterhouse, Caergrawnt. Wedi graddio, aeth yn actor yn y Birmingham Repertory Theatre ac yn athro yn Ysgol Wilson's yn Camberwell, Llundain.[2]

Gwasanaeth milwrol golygu

Roedd Baker yn gwasanaethu gyda Gwirfoddolwyr Wrth Gefn y Llyngesol Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd ar long glirio ffrwydrynnau a oedd yn gwarchod confoiau cyflenwi'r Arctig y Cynghreiriaid i'r Undeb Sofietaidd. Enillodd addurniad Cronfa Wrth Gefn y Llynges Frenhinol. Ym mis Mai 2015, dyfarnwyd Medal Ushakov iddo am ei wasanaeth yn y confoiau Arctig yn yr Ail Ryfel Byd.[3]

Gyrfa ddarlledu golygu

Dechreuodd gweithio i'r BBC fel cyhoeddwr, gan gyflwyno newyddion teledu cyntaf y BBC a ddarlledwyd ar 5 Gorffennaf 1954, er mae John Snagge bu'n darllen y bwletin wedi cyflwyniad Barker.[4] Roedd ganddo gysylltiad agos â darlledu cerddoriaeth glasurol, a chyflwynodd lawer o raglenni cerddoriaeth ar y teledu a'r radio, gan gynnwys, am flynyddoedd lawer, y darllediad byw blynyddol o Noson Olaf y Proms. Roedd yn banelwr rheolaidd ar y sioe cwis cerddoriaeth glasurol Face the Music.[5]

Gwnaeth Baker ymddangosiadau cameo mewn tair pennod (30, 33 a 39) o Monty Python's Flying Circus[5] ac ar Sioe Nadolig Morecambe a Wise[6] ym 1977. Roedd hefyd yn lleisio Mary, Mungo a Midge (1969), cartŵn i blant a gynhyrchwyd ar gyfer y BBC, a Teddy Edward (1973), cyfres arall i blant eraill, yn ogystal â chyfansoddiad Prokofiev i blant Pedr a'r Blaidd. Ar y radio, cyflwynodd Baker's Dozen a Start the Week ar Radio 4 o Ebrill 1970 hyd 1987, Mozart, These You Have Loved (1972-77), a Melodies for You ar gyfer BBC Radio 2 (1986-1995, 1999-2003). Hefyd, cyflwynodd Your Hundred Best Tunes ar Radio 2 y BBC ar nosweithiau Sul, wedi cymryd drosodd gan Alan Keith a fu farw yn 2003. Wedi i Baker ymddeol ym mis Ionawr 2007 gollyngwyd Your Hundred Best Tunes gan y BBC.[7]

Bywyd personol golygu

Priododd Margaret Celia Martin ar 2 Mehefin 1961.[8]. Bu iddynt dau fab Andrew, colofnydd chwaraeon i The Daily Telegraph a James, swyddog gweithredol yng nghwmni teledu Red Arrow Studios.

Bu farw yn Rhydychen.

Cyfeiriadau golygu

  1. Thumim, Janet (2004). Inventing television culture. Rhydychen: OUP. ISBN 9780198742234.
  2. Who's Who. An annual biographical dictionary. Llundain: A & C Black. 2001. tt. 92. ISBN 0 7136 5432 5.
  3. French, Katie (17 November 2018). "Newsreader Richard Baker who introduced first BBC news bulletin dies aged 93". Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018 – drwy www.telegraph.co.uk.
  4. "Richard Baker: The birth of TV news". BBC. 2 July 2004. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2014.
  5. 5.0 5.1 "BBC newsreader Richard Baker dies aged 93". Guardian. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.
  6. "The Morecambe and Wise Show, Christmas Show 1977". Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.
  7. Plunkett, John (10 January 2007), "Titchmarsh replaces Radio 2's Your Hundred Best Tunes", The Guardian, https://www.theguardian.com/media/2007/jan/10/bbc.radio
  8. "Richard Baker Wedding". BBC newscaster Richard Baker getting married to Margaret Celia Martin at St Mary's Church, as BBC cameraman Gerald Rowley films the occasion, London, June 2nd 1961. (Photo by Fox Photos/Hulton Archive/Getty Images). Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.