Richard James (cerddor)

Cerddor o Gymru yw Richard James (ganwyd 27 Mawrth 1975). Roedd yn un o aelodau sylfaenol y grŵp poblogaidd Gorky's Zygotic Mynci.

Richard James
Richard James yn chwarae'r ICA yn Llundain
Ganwyd27 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, gitarydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://allthenewhighways.com/ Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Dechreuodd Richard James ei yrfa'n ifanc iawn fel chwarewr bas Gorky's Zygotic Mynci, y band poblogaidd, o Freshwater East, Sir Benfro. Roedd eu cerddoriaeth yn gyfuniad o prog a psychedelia, gan ennill cefnogaeth John Peel, Mark Radcliffe ac eraill yn y 90au. Yn 2006 daeth diwedd ar Gorky's a phenderfynodd Richard James barhau gyda'i yrfa fel cerddor ar ei liwt ei hun.

Cyhoeddodd ei albwm cyntaf, The Seven Sleepers Den (My Kung Fu) yn 2007. Roedd hwn yn waith hyderus- yn soniarus, melodaidd ac yn symud ei sain i gyfeiriad newydd.

Cyhoeddodd ei albwm nesaf yn 2010, We Went Riding oedd yn cyfuno'r tyner gyda'r iasoer-gyda'r gân "Aveline" yn arbennig yn dangos y cyfuniad annisgwyl o melys a chwerw yn ei waith. Mae Richard James yn hoff o chwarae gyda genres cerdd - mae "Hey Hey Hey" yn cyfuno 'Blues' a roc swnllyd tra bod "Yes Her Smile's Like a Rose" yn ffocysu ar y banjo gwledig. Mae ei hen gydymaith a chyn brif ganwr Gorky's, Euros Childs yn ymddangos ar yr albwm, tra bod Cate Le Bon yn ymuno gyda James yn y gân, "From Morning Sunshine".

Rhyddhawyd Pictures in the Morning yn 2012, a'i bedwaredd albwm All the New Highways yn 2015.

Richard James yn yr ICA, Llundain; 27 Chwefror 2009

Disgyddiaeth golygu

  • The Seven Sleepers Den (2006)
  • We Went Riding (21 Mehefin 2010)
  • Pictures in the Morning (23 Ebrill 2012)
  • All the New Highways (16 Chwefror 2015)

Dolenni allanol golygu