Academydd ac hanesydd Americanaidd a anwyd yng Ngwlad Pwyl oedd Richard Edgar Pipes (11 Gorffennaf 192317 Mai 2018) a oedd yn arbenigo mewn hanes Rwsia, yn enwedig hanes yr Undeb Sofietaidd.[1]

Richard Pipes
GanwydRyszard Edgar Pipes Edit this on Wikidata
11 Gorffennaf 1923 Edit this on Wikidata
Cieszyn Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mai 2018 Edit this on Wikidata
Cambridge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Crane Brinton
  • Michael Karpovich Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, ysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantDaniel Pipes Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Dyniaethau Cenedlaethol, Cymrodoriaeth Guggenheim, George Louis Beer Prize, Commander of the Cross of the Order of Merit of the Republic of Poland Edit this on Wikidata

Ganwyd Ryszard Edgar Pipes yn Cieszyn i deulu o Iddewon Pwylaidd ac Almaeneg eu hiaith. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i Kraków ac yna i Warsaw. Yn sgil goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen yn 1939, ffôdd y teulu i'r Eidal a'r Unol Daleithiau, gan ymsefydlu yn Elmira, Efrog Newydd. Cafodd Richard ei alw i'r fyddin yn 1942 gan ymuno â'r Corfflu Awyr, a fe'i anfonwyd i ddysgu Rwseg ym Mhrifysgol Cornell. Enillodd ei radd baglor o Cornell yn 1946 a'i ddoethuriaeth o Harvard yn 1950. Treuliodd ei holl yrfa academaidd yn Harvard.

Yn ystod y Rhyfel Oer, arddelai agwedd wrth-gomiwnyddol gryf gan Pipes a ddadleuodd dros bolisi tramor cadarn yn erbyn yr Undeb Sofietaidd. Yn 1976 bu'n pennu Tîm B, grŵp o ddadansoddwyr a drefnwyd gan y CIA i ddadansoddi galluoedd ac amcanion strategol y lluoedd milwrol a'r arweinyddiaeth wleidyddol Sofietaidd. Ymunodd â'r Committee on the Present Danger, carfan bwysog neogeidwadol, a chafodd ei benodi'n gyfarwyddwr materion Dwyrain Ewrop a'r Undeb Sofietaidd fel rhan o Gyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn ystod arlywyddiaeth Ronald Reagan.

Llyfryddiaeth golygu

  • The Formation of the Soviet Union, Communism and Nationalism, 1917-1923 (1954)
  • The Russian Intelligentsia (1961)
  • Social Democracy and the St. Petersburg Labor Movement, 1885-1897 (1963)
  • Struve, Liberal on the Left (1970)
  • Russia Under the Old Regime (1974)
  • Soviet Strategy in Europe (1976)
  • Struve, Liberal on the Right, 1905-1944 (1980)
  • U.S.-Soviet Relations in the Era of Détente: a Tragedy of Errors (1981)
  • Survival is Not Enough: Soviet Realities and America's Future (1984)
  • Russia Observed: Collected Essays on Russian and Soviet History (1989)
  • The Russian Revolution (1990)
  • Russia Under the Bolshevik Regime: 1919-1924 (1993)
  • Communism, the Vanished Specter (1994)
  • A Concise History of the Russian Revolution (1995)
  • The Three "Whys" of the Russian Revolution (1995)
  • The Unknown Lenin: From the Secret Archive (1996) - Editor
  • Property and Freedom (1999)
  • Communism: A History (2001)
  • Vixi: Memoirs of a Non-Belonger (2003)
  • The Degaev Affair: Terror and Treason in Tsarist Russia (2003)
  • Russian Conservatism and Its Critics (2006)
  • The Trial of Vera Z. (2010)
  • Scattered Thoughts (2010)

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) William Grimes, "Richard Pipes, Historian of Russia and Reagan Aide, Dies at 94", The New York Times (17 Mai 2018). Adalwyd ar 20 Mai 2018.