Richard Vaughan, 2il Iarll Carbery

gwleidydd (1600-1686)

Milwr a gwleidydd Cymreig oedd Richard Vaughan, 2il Iarll Carbery o'r Gelli Aur, Sir Gaerfyrddin (c. 1600 – 3 Rhagfyr 1686).

Richard Vaughan, 2il Iarll Carbery
Ganwyd1600 Edit this on Wikidata
Bu farw3 Rhagfyr 1686 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Whitgift School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1624–5, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Member of the 1626 Parliament, Member of the 1628-29 Parliament Edit this on Wikidata
TadJohn Vaughan Edit this on Wikidata
MamMargaret Meyrick Edit this on Wikidata
PriodBridget Lloyd, Frances Vaughan, Alice Vaughan Edit this on Wikidata
PlantJohn Vaughan, 3ydd Iarll Carbery, Francis Vaughan, Altham Vaughan Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i John Vaughan, Iarll 1af Carbery a Margaret Meyrick. Bu'n Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin o 1624 hyd 1626 ac o 1628 hyd 1629. Dilynodd ei dad fel Iarll Carbery yn 1634, ac ar 25 Hydref 1643, cafodd y teitl Barwn Vaughan o Emlyn.

Bu'n gweithredu fel Custos Rotulorum Sir Gaerfyrddin o 1630 hyd 1646 ac o 1670 hyd 1686, a hefyd yn yr un swydd dros Sir Benfro o 1643 hyd 1646 a thros Sir Aberteifi o 1644 hyd 1646 ac o 1660 hyd 1686. O 1660 hyd 1672, roedd yn Arglwydd Arlywydd Cymru, a daliodd nifer o swyddi eraill.

Priododd dair gwaith, yn gyntaf a Bridget Lloyd, merch Thomas Lloyd, yn ail a Frances Altham, ac yn drydydd a'r Fonesig Alice Egerton yn 1652. Rhoddodd ef a'i ail wraig loches i Jeremy Taylor yn y Gelli Aur yn ystof Rhyfel Cartref Lloegr, ac yno yr ysgrifennodd Tayloe ei lyfr enwog Holy Living and Holy Dying.