Dewin a chymeriad ffuglennol yng nghyfrs nofelau Disgfyd Terry Pratchett yw Rincewind the Wizzard, ef yw prif gymeriad sawl un o'r llyfrau. Mae'n fyfyriwr methiedig yn yr Unseen University yn Ankh-Morpork, disgrifir yn aml gan ysgolheigion fel "y cywerth hudol i'r rhif sero", ac mae'n treulio'r rhanfwyaf o'i amser yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth amryw o fandiau sydd eisiau ei ladd am ryw reswm neu'i gilydd. Eglurir y ffaith ei fod yn dal yn fyw ac yn rhedeg gan y ffaith y ganwyd ef gydag ysbryd dewin, a chorff rhedwr pellter-hir. Mae hefyd yn adnabyddus am ei allu i droi problemau bychain yn drychinebau anferthol. Caiff ei "allu" arbennig oherwydd mai ef yw'r un a ddewiswyd gan "The Lady", sef personoliad anthropomorffaidd o lwc.