Robert David Roberts

cerddor

Gweinidog o Ddinorwig oedd Robert David Roberts (3 Tachwedd 182015 Mai 1893).

Robert David Roberts
Ganwyd3 Hydref 1820 Edit this on Wikidata
Dinorwig Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mai 1893 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ni chafodd fawr o addysg pan yn blentyn, nac ychwaith addysg athrofaol wedi dechrau ohono bregethu. Bedyddiwyd ef yn 12 oed a dechreuoddodd bregethu yn 1839. Aeth am gyfnod byr yn genhadwr dros gyfarfod misol Arfon i hen faes Christmas Evans yn Llyn, ond dychwelodd i Sardis lle yr ordeiniwyd ef a'r ‘Hen Gloddiwr’ i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1844. Cydweinidogaethai'r ddau i'r eglwysi cylchynol am rai blynyddoedd. Symudodd R. D. Roberts i Bontllyfni a Llanaelhaearn yn nechrau 1848, ond cyn diwedd y flwyddyn honno yr oedd wedi ymsefydlu yn Llanfachraeth a Llanddeusant, Môn. Symudodd drachefn i Tabernacl, Merthyr, yn 1854, ac i Soar, Llwynhendy, yn 1862 ac fel ‘Roberts Llwynhendy’ yr aeth yn enwog. Bu yno am chwarter canrif cyn ymddeol yn 1887.[1]

Ffynonellau golygu

  • J. Rhys Morgan (‘Lleurwg’), Cofiant y diweddar Barch. R. D. Roberts, Llwynhendy : gyda darlun a dwy o'i brif *bregethau;
  • D. Hopkin, Cofiant y Parchedig Robert David Roberts;
  • ‘Atgofion yr Hen Gloddiwr,’ yn Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y Bedyddwyr, 1879;
  • ‘Atgofion R. D. Roberts,’ yn Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y Bedyddwyr, 1889-92;
  • Seren Gomer, Gorffennaf 1893;
  • Y Geninen, Hydref 1893;
  • Cymru (O.M.E.), vii, 141;
  • Baptist Handbook, 1894;
  • Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru (1893–1907), iv, 327.

Cyfeiriadau golygu

  1. "ROBERTS, ROBERT DAVID (1820 - 1893), Baptist minister | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2019-01-25.