Robert Riddles
Roedd Robert Riddles CBE, MIMechE, MinstLE (23 Mai 1892 – 18 Mehefin 1983) yn beiriannydd o Loegr, yn cynllunio locomotifau stêm.
Robert Riddles | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mai 1892 |
Bu farw | 18 Mehefin 1983 |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Roedd Riddles yn brentis gyda Rheilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin o 1909 ac wedi mynychu cwrs perianwaith trydanol, yn credu buasai pŵer trydanol yn bwysig yn y dyfodol. Ymunodd â’r Peirianyddion Brenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn bennaf yn Ffrainc. Aeth yn ôl i Reilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin ym 1919. Roedd o’n gyfrifol am aildrefnu gweithdai Cryw a Derby rhwng 1925-30, ac oedd yn gynorthwy-ydd i Syr William A Stanier FRS o 1933 ymlaen. Roedd o’n yrrwr trên yn ystod y Streic Cyffredinol ym 1926[1]. Roedd o’n bennaeth y Bwrdd Cyfarwyddwr Cyfarpar Trafnidiaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chynlluniodd 3 locomotif ‘Darbodaeth’: y Dosbarth J69 0-6-0ST, Dosbarth Darbodaeth 2-8-0 a Dosbarth Darbodaeth 2-10-0. Roeddent yn hawdd ac yn rhad i’w hadeiladu a chynnal, gyda’r gallu i ddefnyddio glo israddol. Defnyddiwyd y tri dros Brydain ac Ewrop yn llwyddiannus, a defnyddiwyd yr 0-6-0ST a 2-8-0 (erbyn hyn Dosbarth O7 2-8-) yn ystod ac wedi’r rhyfel gan Reilffordd Llundain a’r Gogledd Ddwyrain. Daeth o’n is-lywydd Rheilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin, ac wedyn daeth yn Beirianydd Mecanyddol i’r Rheilffordd Brydeinig ym 1947 ar ôl gwladoli. Rhagwelodd drydaneiddio’r rheilffyrdd yn y tymor hir, ond cynlluniodd 12 dosbarth safonol o locomotifau ar gyfer y rhwydwaith gyfan. Fel ei locomotifau cynharach, roeddent yn hawdd ac yn rhad i’w hadeiladu a chynnal, gyda’r gallu i ddefnyddio glo israddol. Roedd y Dosbarth Safonol 9F Rheilffordd Brydeinig yn arbennig o lwyddiannus. Ymddiswyddodd ym 1953.[2]
Bu farw Riddles ar 18 Mehefin 1983.