Roger Hopkins
Peiriannydd o Gymru oedd Roger Hopkins (1775-1847).[1]
Cafodd ei eni yn Llangyfelach ger Abertawe, yn fab i Evan Hopkins a oedd yn ymwneud ag adeiladu camlesi. Roedd gan Roger frawd o'r enw David. Yn 1804 bu Roger yn gweithio ar y dramffordd rhwng Pen-y-Darren ac Abercynon.[2] Priododd â Mary Harris yn Abertawe ym 1806. Roedd ganddynt fab, Rice Hopkins (1807-1857), a ddaeth hefyd yn beiriannydd. Ym 1814 symudodd Roger i Bideford i weithio i'r Arglwydd Rolle. Ym 1821 cafodd ei gyflogi fel peiriannydd ar Reilffordd Plymouth a Dartmoor. Adeiladodd amryw o bontydd yn Nyfnaint. Daeth yn aelod o Sefydliad y Peirianwyr Sifil ym 1827. Yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Syr William Molesworth i helpu i adeiladu rheilffordd Bodmin a Wadebridge. Roedd ganddo ddiddordebau mewn cloddio glo a gwaith haearn yn Ne Cymru.
Yn y 1840au, aeth Roger i fyw i Ffrainc, ond bu'r prosiectau a gynlluniwyd ganddo yn aflwyddiannus. Daeth yn ôl i Brydain a bu'n byw gyda'i fab Rice yn Llundain nes iddo farw.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Roger Hopkins". Cof y Cwmwd. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.
- ↑ 2.0 2.1 A Biographical Dictionary of Civil Engineers in Great Britain and Ireland: 1500-1830 (yn Saesneg). Thomas Telford. 2002. tt. 337–8.