Roger o Gonwy
brawd o Urdd Sant Ffransis
Brawd Ffransisgaidd ac awdur Lladin o Gymru oedd Roger o Gonwy (Lladin: Rhosier Cambrensis) (bu farw 1360). Fel mae ei enw yn awgrymu, roedd yn frodor o dref Conwy, gogledd Cymru.[1]
Roger o Gonwy | |
---|---|
Bu farw | c. 1360 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ffrier, diwinydd |
Gyrfa
golyguEr nad oes sicrwydd, mae'n debyg y cafodd ei eni yng Nghonwy tua dechrau'r 14g. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Daeth yn un o'r Brodyr Llwydion (Urdd Sant Ffransis) a chododd yn eu rhengoedd i ddal swyddi uchel gan gael ei benodi'n Weinidog Taleithiol yr Urdd yn Lloegr yn 1355. Bu farw yn 1360.[1]
Gwaith llenyddol
golyguFel llenor, fe'i cofir am ei draethawd Lladin Defensio mendicatum ("Amddiffyniad Cardota"), mewn ymateb i feirniadaeth lem Richard FitzRalph, Archesgob Armagh, a oedd wedi ymosod yn hallt ar le tlodi a chardota yn nysgeidiaeth y Brodyr Llywdion.[1]