Parafeddyg a nyrs Palesteinaidd oedd Rouzan Ashraf Abdul Qadir al-Najjar (13 Medi 19971 Mehefin 2018) a laddwyd yn fwriadol gan Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) tra'n gwirfoddoli fel parafeddyg ar ffin Gaza 2018. Roedd yn ugain oed. Ei henw mewn Arabeg yw رزان أشراف عبد القادر النجار .[1] Cafodd ei tharo gan fwled a daniwyd gan filwr o Israel wrth iddi geisio helpu clwyfedigion ger ffens y ffin rhwng Llain Gaza ac Israel.[1][2][3]

Rouzan al-Najjar
Ganwydروزان أشرف عبد القادر النجار Edit this on Wikidata
13 Medi 1997 Edit this on Wikidata
Khan Yunis Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mehefin 2018 Edit this on Wikidata
Khuza'a, Khan Yunis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Galwedigaethparafeddyg, nyrs Edit this on Wikidata
Y parafeddyg al-Najjar; 5 Mehefin 2018

Ar y cychwyn, gwadodd yr IDF ei bod yn darged, gan ddweud efallai iddi gael ei tharo'n anfwriadol. Yn ôl y grŵp dyngarol, Israelaidd B'Tselem, saethwyd al-Najjar yn fwriadol.[4][5]

Hi oedd yr hynaf o chwe phlentyn a anwyd i Ashraf al-Najjar, ei mam, a fagwyd ym mhentref Khuzaa, ger y ffin rhwng Llain Gaza ac Israel.[1]

Rhyddhaodd yr IDF ffilmiau, a oedd, yn ôl yr IDF yn dangos iddi gymryd rhan yn y protestiadau ar gais Hamas. Yn ddiweddarach, canfuwyd bod y fideo yn glip o gyfweliad â gorsaf deledu Libanus a oedd wedi'i golygu gan yr IDF lle cymerwyd sylwadau al-Najjar allan o gyd-destun. Yn y fideo heb ei olygu, ni soniodd al-Najjar am Hamas a galwodd ei hun yn "darian dynol i amddiffyn ac achub y clwyfedig yn y llinellau blaen", gyda phopeth yn dilyn "darian ddynol" yn cael ei docio allan o'r clip gan Israel. Cafodd yr IDF ei feirniadu'n eang am y twyll hwn o ymyrryd â'r fideo er mwyn ei phardduo.[6][6][7][7]

Yn ôl llygaid-dystion, saethwyd al-Najjar tra roedd hi a sawl parafeddyg arall yn cerdded mewn iwnifform parafeddygon gwyn gyda'u breichiau i fyny i gyfeiriad cleifion a oedd newydd eu saethu gan filwyr Israel.[7]

Y Cenhedloedd Unedig golygu

Ar 2 Mehefin 2018 cafwyd datganiad gan asiantaethau a oedd yn gysylltiedig gyda'r U.N., yn Efrog Newydd, yn mynegi eu haniddigrwydd am ei marwolaeth, gan ddweud fod hi'n "amlwg fod al-Najjar yn barafeddyg" a bod saethu al-Najjar yn gywilyddus (was "particularly reprehensible" oedd y geiriad). Trydarodd Cydlynydd yr U.N. yn y Dwyrain Canol amdani, gan ddweud "Medical workers are #NotATarget!".[8][9][10]

Ar Fehefin 1, cafwyd cynnig gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a oedd yn condemnio Israel am ddefnyddio "grym gormodol, anghymesur ac anwahaniaethol" (gwreiddiol: "excessive, disproportionate and indiscriminate force") yn erbyn protestwyr Palestinaidd ger ffens y ffin. Pleidleisiodd Unol Daleithiau America yn erbyn y cynnig, felly ni chafodd ei dderbyn.[10][11]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Barghouti, Mustafa (2018-06-23). "Razan Ashraf al-Najjar". The Lancet 391 (10139). doi:10.1016/S0140-6736(18)31361-8. ISSN 0140-6736. https://www.thelancet.com/journals/lancet/article/PIIS0140-6736(18)31361-8/abstract. Adalwyd 2019-04-10.
  2. Yousur Al-Hlou, Malachy Browne, John Woo and David M. Halbfinger (2006-10-01). "An Israeli Soldier Killed a Medic in Gaza. We Investigated the Fatal Shot". New York Times. Cyrchwyd 2019-04-10.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. "Protests resume after Palestinian paramedic's Gaza funeral". NBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-06-05.
  4. Ahronheim, Anna (5 Mehefin 2018). "IDF says no direct fire was aimed at Gazan nurse killed Friday". The Jerusalem Post. Cyrchwyd 8 Mehefin 2018.
  5. "Israeli forces 'deliberately killed' Palestinian paramedic Razan". Al Jazeera English. 18 Gorffennaf 2018.
  6. 6.0 6.1 McKernan, Bethan (8 Mehefin 2018). "Israeli army edits video of Palestinian medic its troops shot dead to misleadingly show she was 'human shield for Hamas'". The Independent.
  7. 7.0 7.1 7.2 Mackey, Robert (8 Mehefin 2018). "Israel Attempts to Smear Razan al-Najjar, Palestinian Medic It Killed, Calling Her "No Angel"". The Intercept (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mehefin 2018.
  8. "WHO EMRO - UN agencies deeply concerned over killing of health volunteer in Gaza - Palestine-news - Palestine". www.emro.who.int. Cyrchwyd 4 Mehefin 2018.
  9. O'Grady, Siobhán (2 Mehefin 2018). "A Palestinian medic was shot dead in Gaza. Now Israel says it will investigate". Cyrchwyd 4 Mehefin 2018 – drwy www.washingtonpost.com.
  10. 10.0 10.1 Abuheweila, Iyad; Kershner, Isabel (1 Mehefin2018). "A Woman Dedicated to Saving Lives Loses Hers in Gaza Violence". The New York Times. Cyrchwyd 4 Mehefin 2018 – drwy NYTimes.com. Check date values in: |date= (help)
  11. Gladstone, Rick (1 Mehefin 2018). "U.S. Vetoes U.N. Resolution on Gaza, Fails to Win Second Vote on its Own Measure". Cyrchwyd 4 Mehefin 2018 – drwy NYTimes.com.