Rupert, tywysog y Rhein

gwleidydd, dyfeisiwr, engrafwr (1619-1682)
(Ailgyfeiriad o Rupert, Tywysog y Rhein)

Milwr a llywodraethwr oedd Rupert, Breiniarll y Rhein, Dug Bafaria, Dug 1af Cumberland, Iarll 1af Holderness (Almaeneg: Ruprecht Pfalzgraf bei Rhein, Herzog von Bayern), KG, FRS (17 Rhagfyr 161929 Tachwedd 1682).

Rupert, tywysog y Rhein
Ganwyd17 Rhagfyr 1619 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 1682, 1682 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethengrafwr, gwleidydd, dyfeisiwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Great Executioner Edit this on Wikidata
TadFrederick V, Elector Palatine Edit this on Wikidata
MamElizabeth Stuart, brenhines Bohemia Edit this on Wikidata
PriodMargaret Hughes Edit this on Wikidata
PartnerMargaret Hughes Edit this on Wikidata
PlantDudley Bard, Ruperta Hughes Edit this on Wikidata
PerthnasauMari, brenhines yr Alban Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Palatinate-Simmern, Tŷ Wittelsbach Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas, Royal Fellow of the Royal Society Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni ym Mhrâg,[1] fel trydydd fab yr Etholydd Palatin Frederick V ac Elizabeth, merch Iago, brenin Lloegr a'r Alban. Yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr enillodd nifer o frwydrau i'r Brenhinwyr tra'n arwain y marchfilwyr, ond cafodd ei drechu ym Mrwydr Marston Moor (1644) ac ildiodd Bryste i'r Seneddwyr. Am hynny cafodd ei ddiswyddo gan y Brenin Siarl I. Yn hwyrach cafodd Rupert ei alltudio gan y Senedd ac arweiniodd llynges fechan y Brenhinwyr nes iddi gael ei gorchfygu gan Robert Blake ym 1650. Bu Rupert yn ffoi i India'r Gorllewin cyn iddo ddychwelyd i Ewrop ym 1653 a byw yn yr Almaen hyd yr Adferiad.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. National Gallery of Ireland; David Oldfield (1992). Later Flemish Paintings in the National Gallery of Ireland: The Seventeenth to Nineteenth Centuries (yn Saesneg). National Gallery of Ireland. t. 42. ISBN 978-0-903162-50-0.
  2. Chambers Dictionary of World History (Caeredin, Chambers, 2004), t. 719.
  Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.