S. E. Hinton
Awdur Americanaidd yw S. E. Hinton (ganwyd 22 Gorffennaf 1948[1]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, sgriptiwr ac fel awdur llyfrau i oedolion ifanc a phlant.[2] Lleolir llawer o'i gwaith yn Oklahoma, e.e. The Outsiders, a ysgrifennodd pan oedd yn yr ysgol uwchradd. Ym 1988 derbyniodd Wobr gyntaf Margaret Edwards gan Cymdeithas Llyfrgelloedd America am ei chyfraniad i lenyddiaeth ar gyfer pobl ifanc.[3][4][5]
S. E. Hinton | |
---|---|
Ffugenw | S.E. Hinton |
Ganwyd | 22 Gorffennaf 1948 Tulsa |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, sgriptiwr, awdur plant, hunangofiannydd, actor ffilm |
Adnabyddus am | The Outsiders |
Arddull | Gwobr Llenyddiaeth Pobl Ifanc |
Gwobr/au | Gwobr Margaret Edwards |
Gwefan | http://www.sehinton.com |
Fe'i ganed yn Oklahoma lle mynychodd Ysgol Uwchradd Will Rogers a Phrifysgol Tulsa.
Yr awdur ifanc
golyguTra yn ei harddegau, daeth Hinton yn enw adnabyddus drwy UDA fel awdur The Outsiders, ei nofel gyntaf a mwyaf poblogaidd, wedi'i gosod yn Oklahoma yn y 1960au. Dechreuodd ysgrifennu'r nofel ym 1965.[6] Ysbrydolwyd y llyfr gan ddau gang cystadleuol yn ei hysgol, sef y "Greasers" a'r "Socs", a'i hawydd i ddangos empathi tuag at y Greasers trwy ysgrifennu o'u safbwynt nhw. Cyhoeddwyd y nofel gan Viking Press ym 1967, yn ystod ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Tulsa.[7][8] Ers hynny, mae'r llyfr wedi gwerthu mwy na 14 miliwn o gopïau ac mae'n dal i werthu mwy na 500,000 y flwyddyn (2019).[9] [10]
Awgrymodd ei chyhoeddwr y dylai ddefnyddio ei blaenlythrennau yn lle ei henwau llawn fel na fyddai'r adolygwyr gwrywaidd yn gwrthod y nofel oherwydd bod yr awdur yn fenywaidd.[11] Ar ôl llwyddiant The Outsiders, dewisodd Hinton barhau i ysgrifennu a chyhoeddi gan ddefnyddio'i blaenlythrennau, oherwydd nad oedd am golli'r hyn a wnaeth yn enwog, ac er mwyn cadw ei bywyd preifat a'i bywyd chyhoeddus ar wahân.
Y person
golyguMewn cyfweliadau, mae Hinton wedi nodi ei bod yn berson preifat a mewnblyg, nad yw bellach yn ymddangos yn gyhoeddus.[12] Dywedodd hefyd ei bod yn mwynhau darllen Jane Austen, Mary Renault, ac F. Scott Fitzgerald, cymryd dosbarthiadau yn y brifysgol leol, a marchogaeth.[13]
Mae hi'n byw yn Tulsa, Oklahoma gyda'i gŵr David Inhofe, peiriannydd meddalwedd, y priododd hi yn ystod haf 1970 ar ôl cwrdd ag ef yn ei dosbarth bywydeg yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y coleg.[14] Ym mis Awst 1983, daethant yn rhieni i Nicolas David Inhofe, a weithiodd fel recordydd effeithiau sain ar y ffilm Ice Age: The Meltdown.[15][16]
Nofelau i bobl ifanc
golygu- The Outsiders (1967)
- That Was Then, This Is Now (1971)
- Rumble Fish (1975)
- Tex (1979)
- Taming the Star Runner (1988)
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Margaret Edwards (1988) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "S E Hinton". The New York Times. 2010. Cyrchwyd 2011-09-09.
- ↑ Pulver, Andrew (October 29, 2004). "When you grow up, your heart dies: SE Hinton's The Outsiders (1983)". The Guardian. Cyrchwyd 2010-03-25.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: https://www.oif.ala.org/oif/?p=10473. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. https://www.who2.com/se-hinton-staying-gold-plus-two-years/. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. "Hinton, S. E." Cyrchwyd 14 Ionawr 2022. https://www.infoplease.com/people/who2-biography/se-hinton. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. https://www.brainyhistory.com/events/1948/july_22_1948_393083.html. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. https://www.allmovie.com/artist/p32477. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. dynodwr AllMovie (artist): p32477. https://port.hu/adatlap/szemely/se-hinton/person-564274. dynodwr PORT (person): 564274. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2019.
- ↑ Man geni: http://sehinton.com/bio.html.
- ↑ Smith, Dinitia (September 7, 2005). "An Interview With S. E. Hinton: An Outsider, Out of the Shadow". The New York Times.
- ↑ Peck, Dale (September 23, 2007). "The Outsiders: 40 Years Later". The New York Times.
- ↑ "About S. E. Hinton". Penguin Group USA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-07.
- ↑
Italie, Hillel (October 3, 2007). "40 years later Hinton's 'The Outsiders' still strikes a chord among the readers". San Diego Union-Tribune. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 2, 2017. Cyrchwyd 2019-06-13. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Alma mater: https://www.who2.com/se-hinton-staying-gold-plus-two-years/.
- ↑
"Staying Golden". Unsigned review of Hawkes Harbor. New York Press. September 28, 2004. Cyrchwyd 2010-03-25. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help); Italic or bold markup not allowed in:|publisher=
(help) - ↑ Heather Saucier, "INSIDE AN OUTSIDER // Noted Tulsa Author Prefers Family Life To Limelight", Tulsa World, 7 Ebrill 1997
- ↑ Emma Whitford, "Lev Grossman, S.E. Hinton, and Other Authors on the Freedom of Writing Fanfiction", Vulture.com, 13 Mawrth 2015
- ↑ "S.E. Hinton". tcmuk.tv.
- ↑ Wilson, Antoine (2003). S. E. Hinton. New York: Rosen Central. t. 51. ISBN 978-0-8239-3778-3.
- ↑ Nick Inhofe ar IMDb .