Sacco a Vanzetti
Dau Eidalwr a ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1908 oedd Nicola Sacco (22 Ebrill 1891 – 23 Awst 1927) a Bartolomeo Vanzetti (11 Mehefin 1888 – 23 Awst 1927). Cawsant eu harestio a'u profi am lofruddio'r tâl-feistr Frederick Parmenter a'r gwarchodwr Alessandro Berardelli yn ystod lladrad ffatri esgidiau Slater and Morrill ar 15 Ebrill 1920 yn Ne Braintree, Massachusetts; cawsant eu hanfon i'r gadair drydanol yng Ngharchar Taleithiol Charlestown ar 23 Awst 1927. Anarchwyr oedd y ddau ohonynt, ac yn ymlynu wrth fudiad a alwodd am ryfel diarbed yn erbyn y llywodraeth Americanaidd, a honnir ei bod yn dresigar a gormesol.[1] Serch hynny, mynegwyd amheuaeth ar y pryd am eu heuogrwydd.
Nicola Sacco (dde) a Bartolomeo Vanzetti mewn gefynnau llaw | |
Enghraifft o'r canlynol | deuawd, trial, y gosb eithaf |
---|---|
Dyddiad | 23 Awst 1927 |
Lleoliad | Massachusetts |
Yn cynnwys | Bartolomeo Vanzetti, Nicola Sacco |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cawsant yn euog o lofruddiaeth yn y radd gyntaf ar 14 Gorffennaf 1921 ar ôl i'r rheithgor drafod yr achos am ychydig oriau. Cafwyd sawl apêl, a noddir yn bennaf gan garfan breifat o enw'r Pwyllgor Amddiffyn Sacco a Vanzetti. Seiliai'r apeliadau ar dystiolaeth a dynnwyd yn ôl, canlyniadau profion balistig oedd yn anghyson â'i gilydd, datganiad rhagfarnllyd gan y pen-rheithiwr, a chyfaddefiad gan leidr tybiedig. Gwrthododd y barnwr Webster Thayer pob un apêl, a'r un ymateb oedd gan Oruchaf Lys Massachusetts. Wrth i fanylion y treial gael eu hysbysu i'r cyhoedd, daeth Sacco a Vanzetti yn un o achosion enwocaf yr 20g. Yn y flwyddyn 1927, bu gwrthdystiadau o'u plaid ym mhob dinas fawr yng Ngogledd America, Ewrop, a hefyd yn Tokyo, Sydney, São Paulo, Rio de Janeiro, Buenos Aires, a Johannesburg.[2]
Ymgyrchodd llenorion, arlunwyr, ac academyddion dros bardwn neu aildreal. Cyhoeddodd yr Atlantic Monthly erthygl gan Felix Frankfurter, athro yn y gyfraith ym Mhrifysgol Harvard ac yn ddiweddarach ustus y Goruchaf Lys, yn dadlau bod y ddau ddyn yn ddieuog. Cafodd Sacco a Vanzetti eu dedfrydu i farwolaeth yn Ebrill 1927, a chynyddodd y banllef o brotest. O ganlyniad i nifer enfawr o delegramau yn galw am eu pardynu, penododd Alvan T. Fuller, Llywodraethwr Massachusetts, gomisiwn o dri dyn i archwilio'r achos. Wedi iddynt drafod ac ystyried am ychydig wythnosau, a chyfweld â'r barnwr, cyfreithwyr, a nifer o dystion, penderfynant i gadarnhau'r rheithfarn. Dienyddiwyd Sacco a Vanzetti yn y gadair drydanol ar 23 Awst 1927.[3] O ganlyniad bu terfysgoedd mewn sawl dinas, gan gynnwys Paris a Llundain.
Ceisiodd sawl ymchwiliad ganfod gwir yr achos yn y 1930au a'r 1940au. Cyhoeddwyd llythyron huawdl y dynion o'r carchar, a gryfhaodd y cred cawsant eu dienyddio ar gam. Tywyllai'r achos gan arbrofion balistig a datganiadau gan gyfeillion Sacco a Vanzetti sy'n taflu bai arnynt. Ym 1977, datganodd Michael Dukakis, Llywodraethwr Massachusetts, na chafodd Sacco a Vanzetti achos llys cyfiawn ac y "ddylai unrhyw waradwydd gael ei dynnu o'u henwau am byth". Ysgrifennodd Bruce Watson, yn ei gyflwyniad i argraffiad 2007 o lythyron y ddau ddyn, "bod Sacco a Vanzetti ar brawf eto ac mae'n debyg y byddent byth a beunydd".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Anarchy in the U.S. - Sacco and Vanzetti Subject of LC Lecture, September 18, 1995". US: Library of Congress Information Bulletin.
- ↑ Jornal Folha da Manhã, segunda-feira, 22 de agosto de 1927
- ↑ "Sacco and Vanzetti Put to Death Early This Morning". New York Times. 23 Awst 1927. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2010.