Sadyrnin
esgob Tyddewi
Clerigwr a fu'n Esgob Tyddewi yn chwarter cyntaf y 9g oedd Sadyrnin (m. 831). Ceir y ffurf Sadwrnfe ar ei enw hefyd mewn rhai ffynonellau.[1]
Sadyrnin | |
---|---|
Ganwyd | 8 g |
Bu farw | 831 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Hanes a thraddodiad
golyguCeir ansicrwydd ynglŷn ag unoliaeth Sadyrnin/Sadwrnfe. Ceir Llansadyrnin yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin a cheisia rhai haneswyr ei uniaethu â'r esgob o'r 9g ond ymddengys fod y llan yn hŷn ac mae'n bosibl mai sant cynnar o'r un enw a'i sefydlodd. Ni wyddom ddim am y sant hwnnw.[1]
Olynodd Sadyrnin yr Esgob Maesgwyd ond ni wyddys ym mha flwyddyn y bu hynny. Olynwyd Sadyrnin yn ei dro gan Cadell yn y flwyddyn 831 a gellir derbyn y bu farw Sadyrnin yn y flwyddyn honno neu'n fuan wedyn. Cafodd Sadyrnin ei sancteiddio gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn yr Oesoedd Canol.[1]