Mae'r Sahel (Arabeg: السـاحـل) yn rhanbarth daearyddol yn nwyrain Tiwnisia sy'n ymestyn o Gwlff Hammamet yn y gogledd i Gwlff Gabes yn y de. Weithiau cyfyngir y diriogaeth i'r ardal rhwng Gwlff Hammamet ac ardal Mahdia-El Jem i'r de. Daw ei henw o'r gair Arabeg sahel sy'n golygu "arfordir" neu "tir ar yr ymyl."

Sahel
Mathrhanbarth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau35.933333°N 10.533333°E Edit this on Wikidata
Map
Mae hon yn erthygl am y rhanbarth yn Nhiwnisia : gweler hefyd Sahel.

Prif ddinasoedd a threfi'r Sahel yw Sousse (dinas fwyaf yr ardal), Monastir (un o'r trefi Arabaidd hynaf yn Ifriqiya) a Mahdia (hen brifddinas Tiwnisia yn amser y califf Fatimid Ubayd Allah al-Mahdi, a roes ei enw i'r ddinas).

Mae'n rhanbarth cyfoethog ei hanes, sydd wedi bod yn gartref i'r Ffeniciaid (sefydlwyr Hadrumete), y Carthaginiaid (ardal enedigol Hannibal), y Rhufeiniaid (adeiladwyr amffitheatr El Jem), y Bysantiaid a'r Fandaliaid a'r Arabiaid, ynghyd â'r bobl frodorol o dras Berber.

Dinasoedd a threfi'r Sahel golygu

 
Traeth Sousse