Amgueddfa Werin Cymru

amgueddfa awyr agored yn Sain Ffagan, Caerdydd

Amgueddfa awyr-agored sy'n cofnodi hanes phensaerniaeth, diwylliant a ffordd o fyw y Cymry yw Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Lleolir yr amgueddfa yn nhiroedd castell Sain Ffagan, ar gyrion Caerdydd.

Amgueddfa Werin Cymru
Mathamgueddfa awyr agored, amgueddfa werin, amgueddfa genedlaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1948 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmgueddfa Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadAdeilad Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan Edit this on Wikidata
SirSain Ffagan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr29.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4869°N 3.2725°W Edit this on Wikidata
Cod postCF5 6XB Edit this on Wikidata
Rheolir ganAmgueddfa Cymru Edit this on Wikidata
Map

Mae'r amgueddfa yn nodedig am ei chasgliad o adeiladau traddodiadol a symudwyd yno o bob rhan o Gymru, carreg wrth garreg. Mae'n gofnod gwerthfawr o hanes y genedl ac er mwyn arddangos ac astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru o'r 15g ymlaen, gan gynnwys pensaernïaeth draddodiadol, crefftau, offer amethyddol, llên gwerin, dillad, ac ati. Mae yno hefyd nifer o dai Celtaidd wedi'u codi ac arteffactau o'r cyfnod ynghyd ag elfen o ail-greu ac ail-actio cyfnod o'n hanes.

Hanes golygu

Syniad y bardd a'r arbenigwr llên gwerin Iorwerth C. Peate oedd sefydlu'r amgueddfa, ar sail Skansen, sef amgueddfa awyr-agored pensaerniaeth brodorol Sweden yn Stockholm. Ond roedd rhan fwyaf o adeiladau Skansen yn rai pren, a byddai amgueddfa tebyg yng Nghymru yn naturiol yn fwy uchelgeisiol ocherwydd fod adeiladau brodorol Cymru wedi eu adeiladu o gerrig yn bennaf. Dechreuwyd y gwaith o ddatblygu'r amgueddfa ym 1946 yn dilyn y rhodd o'r castell a'i thiroedd gan Iarll Plymouth, agorodd yn swyddogol ym 1948. Peate oedd y curadur cyntaf, ac fe'i olynwyd gan Trefor M. Owen.

Cynlluniwyd prif adeilad yr amgueddfa gan Dale Owen, yn gweithio ar gyfer Partneriaeth Percy Thomas, ac fe'i adeiladwyd rhwng 1968 a 1974.[1] Enillodd y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 1978.[2]

Adeiladau yn Amgueddfa Werin Cymru golygu

Llun Enw Dyddiad Ail-godwyd Safle wreiddiol Sir
(traddodiadol)
Sir
(presennol)
Nodiadau pellach
  Pentre Celtaidd 1992 Sain Ffagan Caerdydd Replica ar sail adfeilion yng Ngwynedd, Sir y Fflint a Swydd Gaerwrangon.[3]
  Ffermdy Hendre'r Ywydd Uchaf 1508[4] 1962 Llangynhafal Sir Ddinbych Sir Ddinbych
  Eglwys Sant teilo 1100 - 1520 2007[4] Llandeilo Tal-y-bont, Pontarddulais Sir Forgannwg Abertawe Ymddengys fel yr oedd tua 1510-30[5]
  Ffermdy Cilewent Dechreuwyd 1470

(Ffurf bresennol: 1734)

1959 Llansanffraid Cwmdeuddwr, Rhaeadr Gwy Sir Drefaldwyn Powys
  Y Garreg Fawr 1544[4] 1984 Waunfawr Sir Gaernarfon Gwynedd
  Ysgubor Stryt Lydan tua 1550 1951 Llannerch Banna Sir y Fflint Wrecsam [6]
  Castell Sain Ffagan 1580 Sain Ffagan Sir Forgannwg Caerdydd
  Ysgubor Hendre Wen Tua 1600 1982 Llanrwst Sir Ddinbych Conwy
  Talwrn Dinbych 17g 1970 Hawk and Buckle Inn, Dinbych Sir Ddinbych Sir Ddinbych
  Ffermdy Kennixton 1610 1955 Llangynydd Sir Forgannwg Abertawe Ailgodwyd y ffermdy yn wreidddiol heb yr adeiladau fferm cyfagos, oherwydd bod y rhain dal yn cael eu defnyddio, ond yn 2007 fe'u cynigwyd i'r amgueddfa.[7]
  Ffermdy Abernodwydd 1678 1955 Llangadfan Sir Faldwyn Powys
  Efail Llawr-y-Glyn 18g 1972 Llawr-y-Glyn Sir Drefaldwyn Powys
  Tanerdy Rhaeadr Gwy hwyr yn y 18g 1968 Rhaeadr Gwy Sir Drefaldwyn Powys
  Melin Wlân Esgair Moel 1760 1952 Llanwrtyd Sir Frycheiniog Powys
Bwthyn Llainfadyn 1762 1962 Rhostryfan Sir Gaernarfon Gwynedd
  Bwthyn Nant Wallter Tua 1770 1993 Taliaris Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin
  Tolldy Penparcau 1772 1968 Penparcau, Aberystwyth Sir Aberteifi Ceredigion
  Capel Pen Rhiw 1777 1956 Dre-fach Felindre Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin
  Beudy Cae Adda 18fed–19eg ganrif 2003 Waunfawr Sir Gaernarfon Gwynedd
  Twlc mochyn Hendre Ifan Prosser tua 1800 1977 Hendre Ifan Prosser Sir Forgannwg Rhondda Cynon Taf
  Bythynnod Rhyd-y-Car Tua 1800 1986 Rhyd-y-Car, Merthyr Tudful Sir Forgannwg Merthyr Tudful Chwech o dai teras wedi eu creu i gynrychioli chwe chyfnod cronolegol yn ystod y diwydiant haearn: 1805, 1855, 1895, 1925, 1955, 1985
  Ffermdy Llwyn-yr-Eos Dechreuwyd 1820 Sain Ffagan Sir Forgannwg Caerdydd Fferm wreiddiol o ystâd Castell Sain Ffagan. Agorwyd fel rhan o'r amgueddfa ym 1989.
  Melin ŷd Bompren 1852– 1977 Cross Inn Ceredigion
  Sied wair 1870 1977 Maentwrog Gwynedd Dim ond y tirfeddianwyr cyfoethocaf oedd yn codi'r fath siediau gwair ar gyfer eu deiliaid.[8]
  Tŷ haf tua 1880 1988 Parc Bute, Caerdydd Sir Forgannwg Caerdydd
  Siop Gwalia 1880 1991 Cwm Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr Sir Forgannwg Pen-y-bont ar Ogwr Ymddengys fel yr oedd yn y 1920au
  Ysgol Maestir defnyddiwyd 1880–1916 1984 Llanbedr Pont Steffan Sir Aberteifi Ceredigion
  Melin lifo Llanddewi Brefi 1892 1994 Tŷ'n Rhos, Llanddewi Brefi Ceredigion
  Siop teiliwr Cross Inn 1896 (ymhelaethwyd 1920au) 1992 Cross Inn Ceredigion
  Crochendy Ewenni tua 1900 1988 Ewenni Sir Forgannwg Bro Morgannwg
  Popty'r Dderwen 1900 1987 Thespian Street, Aberystwyth Sir Aberteifi Ceredigion Caewyd 1924
  Institiwt y Gweithwyr, Oakdale 1916 1995 Oakdale, Y Coed Duon Sir Fynwy Caerffili
Gweithdy Cyfrwywr 1926 1986 Sanclêr Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin
  Tŷ Masnachwr 1580 2012 Hwlffordd Sir Benfro Sir Benfro
  Swyddfa bost 1936 1992 Blaen-waun, ger Hendy-gwyn ar Daf Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin Ymddengys fel yr oedd yn yr Ail Ryfel Byd[9]
  Pre-fab 1948 1998 Gabalfa Sir Forgannwg Caerdydd Ymddengys fel yr oedd tua 1950[10]
  Tŷ Gwyrdd
("Tŷ'r Dyfodol" yn wreiddiol)
2001[11] Sain Ffagan Caerdydd Ar y cyd gyda'r BBC. Ysbrydolwyd gan ddulliau adeiladau traddodiadol a thechnoleg werdd.[12]
  Bryn Eryr 2016 Llansadwrn Sir Fôn Caerdydd
  Llys Llewelyn (Llys Rhosyr) 1200s 2016–18
(ail-greu)
Rhosyr Sir Fôn Sir Fôn }
  Tafarn y Vulcan Caerdydd

Digwyddiadau golygu

Mae'r amgueddfa wedi cynnal yr "Everyman Open Air Theatre Festival" (a ddechreuodd ym 1983) ers 1996,[13] pan symudwyd yno o Erddi Dyffryn ger Casnewydd. Mae'r ŵyl yn cynnwys drama Shakespeare, cynhyrchiad gerddorol a sioe ar gyfer y teulu, ac mae wedi dod yn rhan elfennol o galendr theatr yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.

Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau Doctor Who "Human Nature" a "The Family of Blood" yn Sain Ffagan. Ffilmiwyd penodau Poldark yno hefyd.

Ffynonellau golygu

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 559.CS1 maint: ref=harv (link)
  2.  Medal Aur am Bensaerniaeth. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 3 Awst 2015.
  3.  Adeiladau Hanesyddol. Amgueddfa Werin Cymru.
  4. 4.0 4.1 4.2  Y Tuduriaid. Amgueddfa Werin Cymru.
  5.  Symud eglwys ganoloesol i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
  6. Ysgubor Stryd Lydan, Amgueddfa Werin Cymru, 1 Mehefin 1951[dolen marw]. Casglu y Tlysau. Cyrchwyd 3 Mehefin 2010
  7.  Beech, Gareth. Ffermydd Kennixton a Cilewent. Amgueddfa Cymru. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2013.
  8. Perthyn - St. Fagans Museum (Excerpt) | Scribd (Saesneg). Cyrchwyd 3 Mehefin 2010.
  9.  Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
  10.  Cartref parhaol ar gyfer tŷ dros dro: y pre-fab yn Sain Ffagan. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
  11.  House for the Future. Carpenter Oak & Woodland.
  12.  Tŷ Gwyrdd. Amgueddfa Werin Cymru.
  13. Everyman Open Air Theatre Festival

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu