Rhes neu linelliad o feini hirion yw'r Saith Maen, a leolir ar y mynydd-dir fymryn tu allan i bentref Craig-y-nos yn ardal Brycheiniog, Powys. Credir eu bod yn dyddio o ddechrau Oes yr Efydd (tua'r 2il fileniwn CC). Cyfeirnod OS (map 160): SN 833154

Saith Maen
Mathstone row Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.824938°N 3.69483°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN8331015400 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR072 Edit this on Wikidata

Mae'r rhes o saith garreg yn gorwedd ar rosdir rhwng afonydd Tawe a Thywyni. Maent wedi eu gosod ar linelliad o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain i ffurfio rhes hir gyda rhai o'r cerrig wedi syrthio. Mae'r maen mwyaf gogleddol, y talaf sy'n dal i sefyll, yn mesur 1.6 m o uchder, ond mae dau o'r cerrig sydd wedi cwympo yn mesur 2.3 a 2.6 metr ac yn feini sylweddol. Mae'r meini mwyaf deheuol yn llai o gryn dipyn, rhwng 0.8 a 0.7 metr. Ceir bwlch rheolaidd o tua 1 metr rhyngddynt.[1]

Saith Maen

Ceir rhai meini llai eraill yn agos i'r safle a cheir olion chwareli cerrig yn yr ardal hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, Llundain, 1995), tud. 46.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: