Samuel a Nathaniel Buck

Ysgythrwyr a gwneuthurwyr printiau oedd Samuel Buck (169617 Awst 1779) a'i frawd Nathaniel Buck (a fu farw 1759/1774). Maen nhw'n cael eu hadnabod yn arbennig am Buck's Antiquities, darluniau o hen gestyll a mynachlogydd. Bu Samuel yn gynhyrchiol iawn ar ei ben ei hun, ond pan oedden nhw'n cydweithio, roedden nhw'n cael eu hadnabod fel y Brodyr Buck.

Samuel a Nathaniel Buck
Cadeirlan a phalas Bangor, Sir Gaernarfon, o'r de orllewin

Gyrfaoedd

golygu

Ganwyd Samuel Buck yn Swydd Efrog yn 1696. Ar ôl cyhoeddi rhai printiau yn y sir honno, symudodd i Lundain. Dechreuodd Nathaniel ac yntau weithio ar yr "antiquities", a oedd yn cynnwys darluniau o hen gestyll ac adeiladau crefyddol yn Lloegr a Chymru. Gan ddechrau yn 1724, teithiodd y brodyr trwy'r ddwy wlad, a chwblhau setiau o brintiau ar gyfer rhanbarthau Lloegr erbyn 1738 a Chymru rhwng 1739 ac 1742. Mae rhain yn cael eu hadnabod fel Buck's Antiquities. Yn ystod y cyfnod hwn buont yn gweithio hefyd ar gyfres o drefluniau yn Lloegr a Chymru o dan y pennawd Cities, Sea-ports and Capital Towns.[1]

Marwolaethau a chladdedigaethau

golygu

Nathaniel oedd y cyntaf i farw, rhywbryd rhwng 1759 a 1774. Bu farw Samuel ar 17 Awst 1779 yn Llundain ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys St. Clement Danes. Treuliodd Samuel flynyddoedd diweddar ei oes mewn tlodi.

Cyfeiriadau

golygu