Sant Kilda
Mae Sant Kilda (Gaeleg: Hiort) yn gasgliad o ynysoedd yn Ynysoedd Allanol Heledd oddi ar arfordir gogledd-orllewinol yr Alban. Hwy sy'n gorwedd bellaf i'r gorllewin o holl ynysoedd yr Alban. Hirta yw'r ynys fwyaf. Maent yn awr yn eiddo i Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban wedi i Ardalydd Bute eu gadael i'r corff yma yn ei ewyllys yn 1956. Nid oes gwybodaeth ar gael am unrhyw sant o'r enw "Kilda", ac mae ansicrwydd am darddiad yr enw.
![]() | |
Math |
Ynysfor ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
0 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Harris, Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
8.546 km² ![]() |
Uwch y môr |
430 metr ![]() |
Gerllaw |
Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau |
57.815°N 8.5875°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban ![]() |
Statws treftadaeth |
Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Yn y cyfnod hanesyddol, ni chredir i'r boblogaeth erioed fod yn fwy na 180. Gadawodd y trigolion olaf yr ynysoedd yn 1930. Mae'r ynysoedd yn nodedig am y nifer fawr o adar y môr sy'n nythu yno, er enghraifft mae tua 40,000 o barau o'r Hugan yn nythu ar ynys Boreray. Pan oedd pobl yn byw ar Sant Kilda, roedd Huganod ieuanc ac adar drycin y graig yn rhan bwysig o'u bwyd. Mae ynys Soaigh hefyd yn enwod am ei defaid cynhenid, Defaid Soaigh. Rhoddwyd yr ynysoedd statws Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1986.[1]
LlyfryddiaethGolygu
- Baxter, Colin, a Jim Crumley, St Kilda: A Portrait of Britain's Remotest Island Landscape (Biggar: Colin Baxter Photography, 1988)
- Steel, Tom, The Life and Death of St. Kilda (Llundain: Fontana, 1988)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "St Kilda". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.