Santes Marchell o Dalgarth

santes o'r 4edd g

Santes oedd Marchell (neu Madrun) a annwyd tua 375 [1] yn unig ferch i Tewdrig pennaeth Llanfaes, ger Aberhonddu ac hi etifeddodd y rhan fwyaf o'i tiroedd.[2] Bu ei phrif llys yng Ngarth Madrun.

Santes Marchell o Dalgarth
Tir o gwmpas eglwys Talgarth, safle Garth Madrun
Ganwyd375 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata

Priodas Marchell golygu

Bu y gaeaf cyn i Marchell priodi yn arbennig o oer ac anfonwyd Marchell i Iwerddon gan ei thad i ddianc rhag yr oerni ac i cael dillad cynnes o groen anifeiliaid. Gan fod y tywydd mor oer bu farw trydedd rhan o'i gweision ar noson gyntaf y taith, a haner y gweddill ar yr ail noson.(Mewn rhai cofnodion o'r hanes yr oeddent yn dianc rhag y pla melyn, ond gan ni daeth y pla melyn i Gymru tan 547 ac dylid cysylltu y hanes hwn gyda santes arall o'r un enw.) Yn Iwerddon priododd Marchell â mab pennaeth Gwyddeleg, Amlach ap Cormac ar yr amod y buasai eu plant eu magu ar ei thiroedd hi. Ganwyd ei hunig plentyn, Brychan, yng Ngarth Madrun tua'r blwyddyn 400. Trwy Brychan bu Marchell yn mamgu ac yn cyn-nain i nifer fawr o saint.[3] Gelwir o leiaf tair santes arall yn Marchell a buont i gyd yn ddisgynyddion iddi.[2]

Gwelir hefyd golygu

Dylid darllen yr erthygl hwn ynghyd-destun yr erthygl Santesau Celtaidd 388-680

Cyfeiriadau golygu

  1. Edwards, A.G. 1912, Landmarks in the History of the Welsh Church, Murrey
  2. 2.0 2.1 Deleney, JJ, 1982 A Dictionary of Saints, Kaye and Ward
  3. Jones, T.T. 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog XVII