Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Sara de Ibáñez (10 Ionawr 19093 Ebrill 1971). Roedd yn briod i'r bardd a beirniad llenyddol Roberto Ibáñez.

Sara de Ibáñez
FfugenwSara de Ibáñez Edit this on Wikidata
GanwydSara Iglesias Casadei Edit this on Wikidata
10 Ionawr 1909, 11 Ionawr 1910 Edit this on Wikidata
Chamberlain Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 1971, 1971 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, bardd, academydd Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
PriodRoberto Ibáñez Edit this on Wikidata
PlantUlalume González de León, Suleika Ibáñez Edit this on Wikidata

Ganwyd Sara Iglesias Casadei ym mhentref Chamberlain, Talaith Tacuarembó, Wrwgwái. Priododd Roberto Ibáñez yn 1928.[1]

Yn ei gwaith mae'n cyfuno themâu hanesyddol, yn aml mewn arddull epig, er enghraifft Canto a Montevideo (1941) ac Artigas (1952), â barddoniaeth delynegol ar bynciau cyffredin, megis rhyfel, marwolaeth, natur, a serch, er enghraifft Canto (1940), Pastoral (1948), ac Apocalípsis (1970). Roedd yn hoff o ddefnyddio ffurfiau traddodiadol, megis y soned, yn ogystal â mesurau rhydd.[2]

Bu farw ym Montevideo yn 62 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) William H. Katra, "Ibáñez, Sara De (1905–1971)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Mehefin 2019.
  2. Gwen Kirkpatrick, "Ibáñez, Sara de" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), tt. 270–1.

Darllen pellach

golygu
  • Lidice Gómez Mango, Homenaje a Sara de Ibáñez (1971).
  • Graciela Mantaras Loedel a Jorge Arbeleche, Sara de Ibáñez: Estudio crítico y antología (Montevideo: Editorial Signos, Instituto Nacional del Libro, 1991).