Nofelydd Americanaidd a aned yng Nghanada oedd Saul Bellow (ganwyd Solomon Belov; 10 Mehefin 1915 – 5 Ebrill 2005). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1976.

Saul Bellow
GanwydSolomon Bellows Edit this on Wikidata
10 Mehefin 1915 Edit this on Wikidata
Lachine Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 2005 Edit this on Wikidata
Brookline, Massachusetts Edit this on Wikidata
Man preswylMontréal, Brookline, Massachusetts Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Wisconsin–Madison
  • Prifysgol Chicago
  • Prifysgol Northwestern
  • Roberto Clemente Community Academy
  • Camp B'nai Brith
  • Weinberg College of Arts and Sciences Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, academydd, awdur ysgrifau, awdur Edit this on Wikidata
Swyddbeirniad Gwobr Booker Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Adventures of Augie March, Herzog, Henderson the Rain King Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadDelmore Schwartz, Miguel de Cervantes, Thomas Mann, Stendhal, Anton Chekhov, James Joyce, Wilhelm Reich, Mark Twain, Rudolf Steiner, Marcel Proust, Fyodor Dostoievski, Franz Kafka, Joseph Conrad, William Shakespeare Edit this on Wikidata
PriodUnknown, Unknown, Unknown, Alexandra Bellow, Unknown Edit this on Wikidata
PlantAdam Bellow Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Cymrodoriaeth Guggenheim, Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Genedlaethol y Llyfr (Ffuglen), Gwobr Genedlaethol y Llyfr (Ffuglen), Gwobr Genedlaethol y Llyfr (Ffuglen), Gwobr Pulitzer am Ffuglen, Darlith Jefferson, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr PEN/Malamud, Gwobr Helmerich, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Medal Emerson-Thoreau, Gwobr Formentor, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr O. Henry, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Cymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Solomon Belov yn Lachine, ger Montréal, i deulu o Iddewon Lithwanaidd a ymfudodd i Ganada o St Petersburg ym 1913. Yn hwyrach, newidodd enw'r teulu yn Bellow a mabwysiadodd Solomon yr enw blaen Saul pan oedd yn fachgen.[1] Pan oedd Saul yn 3 oed, symudant i ardal Iddewig Montréal, ac yno fe rodd ei dad gynnig ar sawl math o waith: ffermwr, pobydd, gwerthwr brethynnau, deliwr hen bethau, brocer yswiriant, a gwerthwr diod anghyfreithlon (bootlegger). O ganlyniad i'w weithgareddau dichellgar, bu asiantiaid Cyllid Gwladol Canada ar ei drywydd. Pan oedd Saul yn 8 oed, cafodd y teulu ei smyglo dros y ffin i Chicago, ac yno y buont yn breswylwyr anghyfreithlon yn yr Unol Daleithiau.[2]

Medrodd Saul sawl iaith yn ystod ei blentyndod. Iddew-Almaeneg oedd ei famiaith, a Rwseg hefyd yn iaith yr aelwyd wrth siarad â'i chwaer a brodyr hŷn. Ym Montréal fe siaradodd Saesneg a Ffrangeg yn yr ysgol, ac yn Chicago fe ddysgodd iaith Americanaidd fras y strydoedd.[2] Astudiodd yr Hebraeg trwy gydol ei fywyd, ond fel arall cafodd ei "Americaneiddio'n llwyr" gan ei fagwraeth yn Chicago. Mynychodd Prifysgol Chicago gan newid ei radd o lenyddiaeth i anthropoleg. Mynychodd hefyd Prifysgol y Gogledd-orllewin a Phrifysgol Wisconsin cyn iddo symud i Ddinas Efrog Newydd. Treuliodd ei ugeiniau diweddar yng nghwmni'r arlunwyr, llenorion a newyddiadurwyr adain-chwith yn Greenwich Village. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe wasanaethodd yn Llynges Fasnachol yr Unol Daleithiau.

Gyrfa lenyddol golygu

Ymdrinia'i nofel gyntaf, Dangling Man (1944), â dyn ifanc sydd wedi ymuno â'r fyddin. Wedi'r rhyfel fe symudodd i Baris, ac ysgrifennodd ei ail nofel, The Victim (1947), dan ddylanwad yr athroniaeth a chelfyddydau Ewropeaidd. Tra'n darllen Sartre mewn caffi, fe gafodd dadrith sydyn a dywedodd i'w hunan, "This has got to be a con". Dychwelodd y bachgen o Chicago i'w mamwlad. Yn y 1950au cynnar, cyhoeddodd straeon yn The New Yorker ac Harper's Bazaar, a chylchgronau tra-modern megis Partisan Review.

Cafodd ei gydnabod yn awdur pwysig yn sgil cyhoeddi The Adventures of Augie March ym 1953. Dilynwyd gan y nofela Seize the Day (1956), a'r nofel ddigrif Henderson the Rain King (1959). Cyhoeddid Herzog ym 1964, campwaith a gyflwynodd cymeriad y deallusyn comig i lên America. Credir nifer o feirniaid taw Humboldt's Gift (1975) yw nofel wychaf Bellow, a chanddi plot ffars ond strwythur arwrgerdd.

Yn hwyr yn ei yrfa, trodd yn fwyfwy at y nofela a'r stori fer, dan ddylanwad y meistr Chekhov. Ysgrifennodd ei nofel olaf, Ravelstein, yn sgil marwolaeth ei gyfaill, yr Athro Allan Bloom.

Bywyd personol golygu

Dyn golygus a del ei wisg oedd Saul Bellow. Priododd pum gwaith, a chafodd tri mab ac un ferch.

Arddull lenyddol a dylanwadau golygu

Tro ar ôl tro yn ei nofelau, gwelir golygfeydd a chymeriadau o blentyndod Bellow: bywyd y stryd, bragu anghyfreithlon, a'r gudd-economi. Academyddion, llenorion, a brodorion Chicago yw arwyr ei brif nofelau. Ar y llaw arall, nid oes fawr o dystiolaeth o'i brofiadau milwrol yn ei lyfryddiaeth. Ei nofel gyntaf, Dangling Man, yw'r unig waith ganddo ar bwnc rhyfel. Ceir nodweddion o lenyddiaeth Iddewig ac Ewropeaidd yn ei waith, yn enwedig mawrion Rwseg y 19g, ond yn bwysicach oll straeon Americanaidd ydynt.

Digrifwch o bob haen sy'n lliwio nofelau Bellow: hiwmor bras, ffars, eironi, dychan cymdeithasol, a fwlgareiddiwch. Serch bod Bellow yn hoff o'i hiwmor isel-ael, llenor deallusol ydoedd a wnaeth fritho'i ryddiaith â chyfeiriadau at athronwyr a brawddegau mewn sawl iaith. Er yr elfen gomig gryf, straeon ysbrydol o ddifrif ydynt am gymeriadau sy'n chwilio am Dduw a phwrpas bywyd.[1]

Beirniadaeth a chlod golygu

Clodforir Bellow fel un o hoelion wyth llên yr Unol Daleithiau yn ail hanner yr 20g. Cymharir ei nofelau gorau â Dostoevsky, a chanddynt "chwyldroadau'r ysbryd, ymwybyddiaeth gosmig, a themâu anferthol".[1] Enillodd Humboldt's Gift y Wobr Pulitzer am Ffuglen ym 1976. Yn yr un flwyddyn, rhoddwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo "am y cyfuniad yn ei waith o ddirnadaeth y ddynolryw a dadansoddiad cynnil y diwylliant cyfoes".[3] Derbyniwyd ef i Academi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau. Cydnabuwyd hefyd gan wledydd Ewrop: derbynodd y Croix de Chevalier a'r Légion d'honneur yn Ffrainc, ac enillodd Wobr Malaparte yn yr Eidal. Fe'i ystyrir hefyd yn un o lenorion Iddewig gwychaf yr 20g, a dyfarnwyd iddo Wobr Etifeddiaeth Iddewig y B'nai B'rith yn 1968 a Gwobr Etifeddiaeth Ddemocrataidd America gan yr Anti-Defamation League yn 1976.[4]

Yn sgil ei enwogrwydd, cafodd ei feirniadu am hiliaeth a gwreig-gasineb honedig yn ei nofelau, ac ennynai rhagor o ymateb o ganlyniad i'w sylwadau cyhoeddus. Ymddengys geiriau difrïol megis niggerlove (Herzog) a kikes (Humboldt's Gift) yn ei waith, a'r brif gymeriadaeth fenywaidd a geir yn ei straeon yw'r gnawes neu'r gecren. Ceisiodd Bellow amddiffyn ei hunan drwy ofyn, "ble mae Tolstoy y Zulu? Pwy yw'r Marcel Proust o Papua Gini Newydd?" Llwyddodd i fegino'r tân yn unig. Cafwyd gwrthdaro rhynddo a myfyrwyr Harvard a chyhoeddwyd erthyglau yn condemnio'i hiliaeth gan The New York Times. Cyhuddodd Bellow ei feirniaid o fod yn "heddlu meddwl Stalinaidd", a chwynodd am gywirdeb gwleidyddol. Ceisiodd dalu'r pwyth yn ôl drwy lunio cyfyng-gyngor rhyddfrydol i'r prif gymeriad yn The Dean's December, ond ni lwyddodd i leddfu ei elynion. Gofynnid cwestiwn sardonig iddo: Ble mae'r Tolstoy Canadaidd?[1]

Ar anterth ei gydnabyddiaeth ryngwladol, magodd arfer doethinebu a thraethu barn ar sawl pwnc. Mynegodd yn fachog ac yn athronyddol ar fywyd a chymdeithas fodern, a siaradodd yn erbyn dirywiad addysg a byd llên. Enillodd enw'r hen lenor doeth, ond denodd rhagor o sylw negyddol yn sgil ambell datganiad. Dadleuodd, er enghraifft, taw "gwendid bach ffiaidd" oedd beio'r rhieni am broblemau yn oedolaeth yr unigolyn, ac "esgus i beidio â chymryd cyfrifoldeb am fywyd" oedd profiad o gamdriniaeth tra'n blentyn. Yn ei wyth degau, gwrthododd ymddeol gan ddatgan "nid oes cyfnod golffio ym mywyd y llenor ... dim ond y gadair galed ei chefn a'r llyfr nesaf". O safbwynt ei wrthwynebwyr, dechreuodd Bellow ymhel â chasineb a dicter yn ei henaint ac hynny oedd ei ddifyrwaith yn lle golff.[1]

Edmygir ei waith gan sawl feirniad o fri, megis James Wood a Christopher Hitchens. Un o'i fychanwyr yw Harold Bloom, a alwodd prif gymeriadau Bellow "bob tro yn fethiant gwirion", a'i gymeriadau benywaidd yn "freuddwydion o'r drydedd radd", er iddo ganmol ei gymeriadau bychain Dickensaidd.[5] Cafodd Bellow ddylanwad ar ei gyfoedion Americanaidd, yn eu plith Philip Roth a John Updike,[6] yn ogystal ag awduron Saesneg i ddod, er enghraifft Ian McEwan, Martin Amis, a Jon Gower.[7]

Llyfryddiaeth golygu

  • Dangling Man (1944)
  • The Victim (1947)
  • The Adventures of Augie March (1953)
  • Seize the Day (1956)
  • Henderson the Rain King (1959)
  • Herzog (1964)
  • Mr. Sammler's Planet (1970)
  • Humboldt's Gift (1975)
  • To Jerusalem and Back (1976)
  • The Dean's December (1982)
  • More Die of Heartbreak (1987)
  • A Theft (1989)
  • The Bellarosa Connection (1989)
  • Something To Remember Me By: Three Tales (1991)
  • The Actual (1997)
  • Ravelstein (2000)
  • Collected Stories (2001)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Obituary: Saul Bellow, The Guardian (7 Ebrill 2005). Adalwyd ar 8 Ebriill 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Zachary Leader. ‘I got a scheme!’ – the moment Saul Bellow found his voice, The Guardian (17 Ebrill 2015). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  3. (Saesneg) The Nobel Prize in Literature 1976, Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 8 Ebrill 2017.
  4. Sara E. Karesh a Mitchell M. Hurvitz, Encyclopedia of Judaism (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 49.
  5. (Saesneg) Harold Bloom, The Art of Criticism No. 1, The Paris Review (1991). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  6. (Saesneg) Saul Bellow: 'American writer supreme', The Daily Telegraph (10 Mehefin 2015). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  7. Awdur blaenllaw yn cyhoeddi casgliad o straeon byr, lleol.cymru (5 Gorffennaf 2006). Adalwyd ar 23 Mai 2017.