Scampi
Pryd o fwyd o gig Nephrops norvegicus (langoustine) neu gimwch cyffelyb yw scampi. Mae dulliau paratoi scampi yn amrywio o wlad i wlad ac o ranbarth i ranbarth. Yng ngwledydd Prydain diffinnir scampi yn gyfreithiol fel Nephrops norvegicus yn unig, ond mewn gwledydd eraill ystyrir sawl math o gimwch yn scampi.
Math | bwyd, seafood dish, shrimp dish |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth scampi yn boblogaidd yn y 1960au diolch i'r cwmni Albanaidd, Young's Seafood, ar ôl i'w pysgotwyr ofyn i gael gwneud rhywbeth efo'r langoustines roeddent yn eu dal ym mhysgotfeydd Lerwick, Lossiemouth ac Annan yn yr Alban. Cafodd eu cogydd datblygu cynnyrch, oedd yn Eidalwr, y syniad o greu "Scampi mewn Basged", a ddaeth yn un o'r prif bwydydd tafarn yn y 1960au a'r 1970au.