Ysgolhaig, bardd a diwinydd Gwyddelig oedd Sedulius Scottus neu Sedulius yr Ieuengaf (fl 840 - 860) a sgwennai mewn Lladin.

Sedulius Scotus
Ganwyd9 g Edit this on Wikidata
Bu farw9 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, gramadegydd, athronydd, diwinydd Edit this on Wikidata
MudiadDadeni Carolingaidd Edit this on Wikidata

Yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Lothair (840-855), roedd yn gweithio yn Liège. Cadwyd tua 90 o'i gerddi, a chyhoeddwyd hwy gan Ludwig Traube yn y Poetae Aevi Carolini. Yn eu plith mae dwy gerdd yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" (Rhodri Mawr) dros y Llychlynwyr yn 856. Ei waith pwysicaf yw'r traethawd De Rectoribus Christianis.