Mae sefydliad di-elw ( NPO ) neu sefydliad nid-er-elw (Saesneg: nonprofit organisation)[1] yn gorff nad yw am wneud elw.[2][3] Mae'n endid cyfreithiol a drefnir ac a weithredir ar gyfer budd cyfunol, cyhoeddus neu gymdeithasol, mewn cyferbyniad ag endid sy'n gweithredu fel busnes sy'n anelu at gynhyrchu elw i'w berchnogion.

Sefydliad di-elw
Enghraifft o'r canlynolffurf gyfreithiol, math o fudiad, cangen economaidd Edit this on Wikidata
Mathsefydliad Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebsefydliad masnachol, elusen gwneud elw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae sefydliadau o'r math hwn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiad o beidio â dosbarthu arian: rhaid i unrhyw refeniw sy'n fwy na threuliau gael ei ymrwymo i ddiben a nodau'r sefydliad, ac ni chaniateir i'r elw hwn gael ei drosgwyddo i bartïon preifat. Ceir amrywiaeth o sefydliadau di-elw, gan gynnwys rhai sefydliadau gwleidyddol, ysgolion, cymdeithasau busnes, eglwysi, clybiau cymdeithasol, a chwmnïau cydweithredol. Gall endidau dielw ofyn am gymeradwyaeth gan lywodraethau i fod wedi'u heithrio rhag treth.

Agweddau allweddol ar sefydliadau dielw ledled y byd yw atebolrwydd, dibynadwyedd, gonestrwydd, a bod yn agored i bob person sydd wedi buddsoddi amser, arian a ffydd yn y sefydliad. Mae sefydliadau dielw yn atebol i'r rhoddwyr, sylfaenwyr, gwirfoddolwyr, derbynwyr rhaglenni, a'r gymuned. Yn ddamcaniaethol, ar gyfer cwmni dielw sy'n ceisio ariannu ei weithrediadau trwy roddion, mae hyder y cyhoedd yn ffactor bwysig yn y swm o arian y gall sefydliad dielw ei godi. Yn gyffredinol: po fwyaf y mae sefydliadau dielw'n canolbwyntio ar eu cenhadaeth, y mwyaf fydd hyder y cyhoedd. Bydd hyn yn arwain at fwy o arian i'r sefydliad.[1]

Rheolaeth golygu

Camsyniad cyffredin am sefydliadau d-ielw yw eu bod yn cael eu rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Mae gan y mwyafrif o sefydliadau dielw staff sy'n gweithio i'r cwmni, o bosibl yn defnyddio gwirfoddolwyr i gyflawni gwasanaethau dielw o dan gyfarwyddyd y staff cyflogedig. Rhaid i sefydliadau dielw fod yn ofalus i gydbwyso'r cyflogau a delir i staff yn erbyn yr arian a delir i ddarparu gwasanaethau i fuddiolwyr (y rhai sy'n cael budd o waith y mudiad neu'r cwmni). Gall sefydliadau y mae eu treuliau cyflog yn rhy uchel o gymharu â threuliau eu rhaglen wynebu craffu manwl ee ymchwiliad treth.[4]

Yr ail gamsyniad yw efallai na all sefydliadau di-elw wneud elw. Er nad nod y sefydliadau dielw yw cynyddu elw mae'n rhaid iddynt weithredu fel busnes ariannol gyfrifol o ddydd i ddydd. Rhaid iddynt reoli eu hincwm (grantiau a rhoddion ac incwm o wasanaethau) a'u treuliau er mwyn parhau i fod yn endid ariannol hyfyw. Mae gan sefydliadau dielw y cyfrifoldeb o ganolbwyntio ar fod yn broffesiynol, yn ariannol gyfrifol, gan ddisodli hunan-les a chymhelliad elw gyda'u nodau ac amcanion.[5]

Swyddogaethau golygu

Ar y cyfan, mae sefydliadau nid-er-elw'n darparu nwyddau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu cyflenwi'n ddigonol gan y llywodraeth.[6] Mae gan NPOs amrywiaeth eang o strwythurau a dibenion.  

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Ciconte, Barbara L.; Jacob, Jeanne (2009). Fundraising Basics: A Complete Guide. Burlington, Massachusetts: Jones & Bartlett Learning. ISBN 9780763746667.
  2. "Definition of 'not-for-profit organization'". www.collinsdictionary.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2018. Cyrchwyd 6 November 2018.
  3. "System of National Accounts (UN)" (PDF). Unstats.un.org. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 October 2013. Cyrchwyd 16 October 2013.
  4. Simkovich, D. (2017). How to Run a Non-Profit Organization. Retrieved from https://www.donateforcharity.com/nonprofit/a-nonprofit-you-pick-later/
  5. Anheier, K. H. (2005). Nonprofit Organizations: An Introduction. New York, NY: Routledge.
  6. Weisbrod, Burton, 1977. The Voluntary Nonprofit Sector: An Economic Analysis, Lexington Books, New York.

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu