Chwaraeon rasio beic yw seiclo trac, a gynhelir ar draciau sydd wedi'u hadeiladu'n fwriadol ar gyfer y pwrpas neu mewn vélodrome. Cynhelir seiclo trac ar draciau gwair hefyd, wedi'u marcio allan ar feysydd chwarae gwastad. Mae rasys seiclo trac gwair yn boblogaidd yn yr haf yn Lloegr, ac yn yr Alban fel rhan o Gemau'r Ucheldiroedd.

Hanes golygu

Safle'r reidiwr ar y beic golygu

 
Ras seiclo trac

Mae'r beiciau wedi cael eu dylunio er mwyn lleihau'r llusgiad erodynameg a achosir gan y peiriant a'r reidiwr.

Mae'r bariau llywio ar feiciau trac a ddefnyddir ar gyfer rasys pellter hir megis ras bwyntiau, yn debyg i'r barrau cwymp a ddefnyddir ar gyfer rasio ffordd. Mae safle'r reidiwr ar y beic hefyd yn debyg i rasio ffordd.

Mae'r safle yn fwy eithafol ar gyfer cystadleuthau sbrint, gyda'r barrau'n is a'r cyfrwy yn uwch ac yn bellach ymlaen. Mae'r barrau'n aml yn gulach a chyda cwymp dyfnach. Defnyddir barrau dur yn hytrach na charbon gan nifer o sbrintwyr oherwydd eu bod yn fwy anhyblyg a gwydn.

Mewn rasys a gaiff eu hamseru megis y pursuit a'r kilo, mae reidwyr yn aml yn defnyddio barrau-aero neu 'barrau triathlon' sy'n debyg i'r rhai a welir ar feiciau treial amser ar y ffordd, sy'n galluogi i'r reidiwr roi ei freichiau yn agosach at ei gilydd o flaen y corff. Mae hyn yn achosi i'r cefn fod yn fwy llorweddol gan leihau'r llusgiad ar flaen y corff. Ni chaniateir defnyddio'r barrau hyn mewn unrhyw ras heblaw'r treial amser a'r pursuit oherwydd diogelwch.

Gweler hefyd golygu