Seinyddiaeth y Saesneg

Nid oes rheolau 100% o ynganu'r Saesneg; mae'n rhaid i chi ddysgu pob gair. Ond yn gyffredinol, dyma sut mae ynganu llythyrau. Mae nifer o lythyrau yn debyg i'r rhai a geir yn y Gymraeg, ond dyma'r eithriadau a llythyrau ychwanegol.

(Allwedd, italig = Saesneg, heb italig = Cymraeg)

c - cyn e neu i - fel s
ch - fel ts
dd - fel d
f - fel ff
g - cyn e neu i - fel j
k - fel c
ll - fel l
qu - fel cw
sh - fel si yn siop
th - mae e'n gallu bod fel dd neu th
u - fel y
v - fel f
w - cytsain
x - cs
y - cytsain (arferol)
z - dydy e ddim yn bodoli yn Cymraeg, tipyn fel s
ai / ay - ei
au / aw - ô
ee / ei / ey - î
ie - î neu ai
oo - w neu ŵ
ou - aw neu ŵ
ow - aw