Seioniaeth grefyddol
Idioleg ffwndamentalaidd, gwleidyddol sy'n cyfuno Seioniaeth ac Iddewiaeth Uniongred yw Seioniaeth Grefyddol (neu Tziyonut Datit).
Enghraifft o'r canlynol | ideoleg wleidyddol, enwad crefyddol |
---|---|
Math | Iddewiaeth Uniongred, cenedlaetholdeb crefyddol, Seioniaeth, Iddewon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeirir at ei hymlynwyr hefyd fel Dati Leumi ( Cenedlaethwyr Crefyddol") ac yn Israel, maent yn cael eu hadnabod yn fwyaf cyffredin gan y ffurf luosog o ran gyntaf y term Datiim דתיים "Crefyddol"). Weithiau gelwir y gymuned yn כִּפָּה סְרוּגָה, seruga, sef yr enw ar y "cap corun wedi'i wau" sy'n cael ei wisgo gan y dynion.
Cyn sefydlu Cenedl Israel ym Mai 1948, roedd y rhan fwyaf o'r Seionyddion Crefyddol yn Iddewon ymylol, a oedd yn cefnogi ymdrechion Seionaidd i adeiladu gwladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina.
Mae eu ideoleg yn troi o amgylch tair colofn: Gwlad Israel, Pobl Israel, a Torah Israel.[1]
Mae'r Hardal (חרדי לאומי; Le'umi; llythr., "Haredi Cenedlaetholgar") yn is-gymuned, llymach, mwy ffwndamentalaidd, yn ei defod, ac yn bleidiol iawn i wleidyddiaeth cenedlaetholgar.[2]
Ym 1862, cyhoeddodd yr Almaenwr Uniongred Rabbi Zvi Hirsch Kalischer ei draethawd Derishat Zion, gan ddadlau mai dim ond trwy hunangymorth y gall iachawdwriaeth yr Iddewon, a addawyd gan y Proffwydi, ddigwydd.[3]
Y prif ideolegydd o Seioniaeth Grefyddol fodern oedd y Rabi Abraham Isaac Kook, a gyfiawnhaodd Seioniaeth yn ôl y gyfraith Iddewig, ac a anogodd Iddewon crefyddol ifanc i gefnogi ymdrechion i setlo'r wlad, a'r Seionyddion Llafur seciwlar i roi mwy o ystyriaeth i Iddewiaeth. Gwelodd Kook Seioniaeth fel rhan o gynllun dwyfol a fyddai'n arwain at ailsefydlu'r Iddewon yn eu mamwlad (Palesteina). Byddai hyn yn dod ag iachawdwriaeth ("Geula") i Iddewon, ac yna i'r byd i gyd. Ar ôl i gytgord byd-eang gael ei gyflawni trwy ad-drefnu'r famwlad Iddewig, bydd y Meseia yn dod. Er nad yw hyn wedi digwydd eto, pwysleisiodd Kook y byddai'n cymryd amser.
Datblygodd Rabbi Kook gyfreithlondeb crefyddol i Seioniaeth:
“ |
“Nid mudiad gwleidyddol gan Iddewon seciwlar yn unig oedd Seioniaeth. Yr oedd mewn gwirionedd yn arf gan Dduw i hyrwyddo Ei gynllun dwyfol, ac i gychwyn dychweliad yr Iddewon i’w mamwlad – y wlad a addawodd i Abraham, Isaac, a Jacob. Mae Duw eisiau i blant Israel ddychwelyd i’w cartref er mwyn sefydlu gwladwriaeth sofran Iddewig lle gallai Iddewon fyw yn unol â chyfreithiau’r Torah a Halakha... Felly, mae setlo yng Ngwlad Israel yn rhwymedigaeth ar yr Iddewon crefyddol, ac mae helpu Seioniaeth mewn gwirionedd yn dilyn ewyllys Duw.” [4] |
” |
Roedd llawer o Iddewon crefyddol hefyd yn anghymeradwyo'r Seionyddion crefyddol hyn oherwydd bod llawer yn Iddewon seciwlar neu'n anffyddwyr, a gredant mewn Marcsiaeth. Gwelai llawer o'r Seioniaid hyn y mudiad fel arf ar gyfer adeiladu cymdeithas sosialaidd ddatblygedig yng ngwlad Israel. Roedd y cibwts cynnar yn setliad cymunedol a oedd yn canolbwyntio ar nodau cenedlaethol, gwladgarol, heb eu llyffetheirio gan grefydd ac egwyddorion cyfraith Iddewig megis y kashrut. Roedd Seionyddion Sosialaidd yn un o ganlyniadau proses hir o foderneiddio o fewn cymunedau Iddewig Ewrop, a elwir yn Haskalah, neu Oleuedigaeth Iddewig.
Gwleidyddiaeth
golyguMae’r rhan fwyaf o'r Seionyddion Crefyddol yn cofleidio gwleidyddiaeth adain dde, yn enwedig y blaid gartref Iddewig adain dde grefyddol, y הַבַּיִת הַיְהוּדִי, HaBayit HaYehudi, ond hefyd yn cefnogi’r prif ffrwd Likud, sydd hefyd yn adain dde. Ceir rhai Seionyddion Crefyddol asgell chwith, megis y Rabi Michael Melchior, y cynrychiolwyd eu safbwyntiau gan blaid Meimad (a oedd yn cydredeg â phlaid Lafur Israel).
Mae llawer o ymsefydlwyr Israel yn y Lan Orllewinol yn Seionyddion Crefyddol, ynghyd â'r rhan fwyaf o'r gwladychwyr a ddiarddelwyd o Llain Gaza ym mis Awst a mis Medi 2005.
Cyfeiriadau}
golygu- ↑ Adriana Kemp, Israelis in Conflict: Hegemonies, Identities, and Challenges, Sussex Academic Press, 2004, pp.314–315.
- ↑ See for example: Adina Newberg (2013). Elu v’Elu: Towards Integration of Identity and Multiple Narratives in the Jewish Renewal Sector in Israel Archifwyd 2020-12-24 yn y Peiriant Wayback, International Journal of Jewish Education Research, 2013 (5-6), 231-278); Chaim Cohen (n.d.). Torah Sociology: Dati Torani and Dati Liberal - Is Dialogue Desirable?, Israel National News
- ↑ Zvi Hirsch Kalischer (Jewish Encyclopedia)
- ↑ Samson, David; Tzvi Fishman (1991). Torat Eretz Yisrael. Jerusalem: Torat Eretz Yisrael Publications.