Serafín Estébanez Calderón
Llenor Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Serafín Estébanez Calderón (27 Rhagfyr 1799 – 5 Chwefror 1867), a adwaenir gan y llysenw El Solitario, sydd yn nodedig fel un o arloeswyr mudiad costumbrismo.
Serafín Estébanez Calderón | |
---|---|
Ffugenw | El Solitario |
Ganwyd | 27 Rhagfyr 1799 Málaga |
Bu farw | 15 Chwefror 1867, 5 Chwefror 1867, 1867 Madrid |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd, cyfreithiwr, hanesydd, bardd |
Swydd | Aelod o Senedd Sbaen, member of the Cortes during the reign of Isabel II, member of the Cortes during the reign of Isabel II |
Mudiad | Rhamantiaeth |
llofnod | |
Ganed ym Málaga, Andalucía. Symudodd i Fadrid yn 1830 a chyhoeddodd newyddiaduraeth dan y llysenw El Solitario. Ysgrifennodd Escenas andaluzas (1847), cyfrol o ddarluniadau o fywyd gwledig Andalucía, Bu hefyd yn cyfansoddi barddoniaeth, astudio'r iaith Arabeg a'i llenyddiaeth, ac yn casglu llawysgrifau. Bu farw ym Madrid yn 67 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Serafín Estébanez Calderón. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2019.