Mewn athroniaeth, set o osodiadau na allent fod yn wir gyda'i gilydd yw set anghyson.

Fel arfer mae athronwyr yn defnyddio setiau o drioedd fel enghreifftiau, ond gall set anghyson fod o unrhyw faint. Mae pob gosodiad yn y set yn ddichonadwy ynddo ei hun ond ceir anghysondeb o'u derbyn fel set o osodiadau. Er enghraifft, 'Plentyn amddifad oedd Mair; bu Siôn yn fyw yn hwy na hi; Siôn oedd ei thad'.

Ffynhonnell golygu

  • Ted Honderich (gol.), The Oxford Companion to Philosophy (Rhydychen, 1995), tud. 398.
  Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.