Sgrifellwr
rhywun sy'n cael ei gyflogi i ysgrifennu neu deipio'r hyn mae rhywun arall wedi'i arddweud neu i gopïo rhywbeth ysgrifenedig
Sgrifellwr yw'r enw ar rywun sy'n cael ei gyflogi i ysgrifennu neu deipio'r hyn mae rhywun arall yn ei arddweud, neu i gopïo rhywbeth sydd wedi'i ysgrifennu gan rywun arall. Mae cymorth sgrifellu yn cael ei gynnig mewn cyd-destunau academaidd i bobl sydd ag anghenion ychwanegol, er enghraifft i fyfyriwr sy'n cwblhau aseiniad o dan amodau arholiad.
Mewn rhai achosion, gall sgrifellwr fod yn rhywun sy'n llofnodi dogfen ar ran rhywun arall, gyda'u hawdurdod.
Yn hanesyddol, sgrifellwyr oedd yn gwneud copïau o lawysgrifau gyda llaw, cyn dyfeisio'r wasg argraffu.