Sgwrs:Alldafliad benyw

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Adam

A yw gosod lluniau o natur rywiol ar erthyglau sy'n ymwneud â rhyw yn ddoeth? Os ydym eisiau i ysgolion a sefydliadau eraill i ddefnyddio'r Wici, yna mae angen bod yn ofalus ynglyn a'r math o ddelweddau rydym ni'n defnyddio. O ystyried fod cynifer o blant o dan 18 yn defnyddio Wicipedia fel man cyfeirio, yn bersonol dw i'n meddwl y dylid cael gwared ohono neu mater o amser fydd hi cyn y bydd ysgolion (a phrifysgolion o bosib...) yn ein blocio ni o'u cyfrifiaduron. Beth yw barn pawb arall? Pwyll 14:06, 24 Hydref 2011 (UTC)Ateb

Cytuno. Mi oedd rhyw beidlais dw i'n meddwl ar y Wicipedia Saesneg ynglyn a'r gallu i ddewis bod rhai tudalannau os oeddech eisio rhyw fath o rybudd o flaen llaw ynglyn a chynnwys, ac efallai hyefyd byddai meddalwedd blocio gan rhieni'n gallu ffiltro tudalennau fel hyn. Yn y cyfamser dw i'n meddwl dylid dileu'r ddelwedd.--Ben Bore 14:31, 24 Hydref 2011 (UTC)Ateb
Ydy, mae yn ddoeth - gweler Wikipedia is not censored a Wicipedia:Polisi defnyddio delweddau (neu'r fersiwn Saesneg ohono). Efallai bod Wicipedia yn cynnwys delweddi/ffeiliau sy'n tramgwyddo pobl, ond dyw hwnna ddim yn esgus dros beidio â chynnwys rhywbeth. Mae'n dweud ar en "Partial or total nudity, by itself, is generally not considered sexual content." Os yw ysgolion am ein rhwystro oherwydd ambell i lun 'rhywiol' (oherwydd mai ambell i lun yn unig ydyn nhw, o ystyried y maint o'r erthyglau sydd gennym ni), wedyn eu dewis nhw yw hwnna. Dwi yn erbyn dileu'r lluniau o ystyried yr hyn a ddywedais a'r hyn sy ar en. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:15, 24 Hydref 2011 (UTC)Ateb
Dwi wedi edrych ar erthygl tebyg en, a does dim llun yno. Ar gyfer yr erthygl hon, dwi o blaid cael gwared â'r llun. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:17, 24 Hydref 2011 (UTC)Ateb
Dw i wedi dileu'r delwedd. Gellir ei ychwnaegu eto os oes rheswn da dros wneud, felly croeso i unrhyw un arall fynegi barn yma.--Ben Bore 18:33, 24 Hydref 2011 (UTC)Ateb
Dwi o blaid dileu'r ddelwedd o'r erthygl, nid oherwydd ei bod yn rhy "graffig", ond oherwydd ei bod yn anghywir. Teisen hufen y mae'r llun yn dangos, nid alldafliad benyw! —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:49, 24 Hydref 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Alldafliad benyw".