Sgwrs:Annuwiaeth

Sylw diweddaraf: 17 o flynyddoedd yn ôl gan Rhys

Ar ôl ysgrifennu'r erthygl hon o dan yr enw "Atheistiaeth" fe benderfynais i eu symud i "Annuwiaeth". Nes ymlaen, ar ôl ymgyhori a gwahanol eiriaduron fe welais i'r geiriau "annuwiaeth", "anffyddiaeth", "anghredinaeth" ac "atheistiaeth" fel cyfieithadau o'r Saesneg "atheism". Er bod pob cyfieithad yn agos iawn dydyn nhw ddim yn golygu'r un peth yn union, hynny yw;- "annuwiaeth" = absenoldeb Duw, "anffyddiaeth" = absenoldeb ffydd, ac "anghredinaeth" = absenoldeb cred. Fe benderfynnais i symud yr erthygl yn ôl i'r man gwreiddiol sef - "anffyddiaeth" ond roedd Wicipedia yn gwrthod derbyn hwn. Ar ôl ystyried yn bellach, efallai bod yr erthygl yn y lle cywir wedi'r cwbl gan fod ystyr "annuwiaeth" yn fwy agos i "atheism". Rhys 14:57, 18 Tachwedd 2007 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Annuwiaeth".