Sgwrs:Brwydr Thermopylae
Allwn ni newid yr Ymerodraeth Bersaidd i Ymerodraeth Persia, os gwelwch yn dda? I'm clyw i mae'n fwy cywir ac yn llai trwsgl i'w ddweud. Lloffiwr 13:30, 3 Ebrill 2007 (UTC)
Dwi wedi bod yn petruso rhwng y ddwy ffurf fy hun. Mae 'Ymerodraeth Persia' yn swnio'n well ond ar y llaw arall mae gennym ni 'Yr Ymerodraeth Brydeinig / Rufeinig / Fysantaidd' (ond 'Ymerodraeth yr Otomaniaid' - dilyn yr hanesydd Gwyn Jones yn ei lyfr ar Dwrci wnes i fan 'na). Ond mae'n well gennyf 'Persia' na 'Persaidd' yn yr achos hwn. Dim teimladau cryf ond mae'n swnio'n llai trwsgl. Gwell inni benderfynu ar un ffurf beth bynnag gan fod y cyfeiriadau ati'n cynyddu, er nad oes erthygl eto! Anatiomaros 16:28, 3 Ebrill 2007 (UTC)
- Mae'n wir bod rhai wedi achub y blaen arnom gyda'r Undeb Ewropeaidd, yr Ymerodraethau ag ati. (Rwyf wedi meddwl am newid y rhain hefyd ond wedi hen anobeithio.) Felly safwn yn y bwlch! - Ymerodraeth Persia plis! Does neb wedi ceisio trafod y mater na gosod canllaw ar hwn er mwyn y safoni diddiwedd, sy'n ennyn mwy o anfodlonrwydd nag o cydgord rwyn credu - ond digon i'r dydd ei ddrwg ei hyn. Beth am i ni greu eginyn erthygl ar Ymerodraeth Persia a thudalen ail-gyfeirio ati o'r Ymerodraeth Bersaidd? Lloffiwr 20:24, 4 Ebrill 2007 (UTC)
Dwi ddim yn anghytuno â'r enw Ymerodraeth Rufeinig, mae'n enw sydd wedi hen ymsefydlu ac sy'n cael ei defnyddio gan bawb bron (e.e. D. Ellis Evans, yr ysgolhaig clasurol mwyaf yng Nghymru'r 20fed ganrif). Dwi'n meddwl fod Ymerodraeth Brydeinig yn iawn hefyd. Cloffais rhwng dau feddwl am yr Ymerodraeth Fysantaidd ond o be dwi'n gweld yn yr ychydig lyfrau sy'n cyffwrdd â'r pwnc dyna'r enw mwyaf cyffredin (Gwyn Jones eto, er enghraifft). Iawn felly, eginyn ar Ymerodraeth Persia rywbryd yn y dyfodol agos (ond dim heno - mae gennyf ddigon i'w wneud efo cyfnodau hanes Cymru am rwan!). Anatiomaros 21:42, 4 Ebrill 2007 (UTC)
- Diolch am eich sylwadau trwyadl. Rwyn sylweddoli mod i'n hen ffasiwn iawn - yn wir, cyn dechrau ymhel â'r Wicipedia prin oeddwn wedi dod ar draws 'Cymraeg Cyfoes'! Doeddwn i hefyd ddim am roi pwysau arnoch chi i orfod creu eginyn ar 'Ymerodraeth Persia' ar fyrder. Rydych yn cynhyrchu toreth o erthyglau o safon da ar gyfer Wicipedia. Nid torri ar draws llif yr erthyglau oedd fy mwriad yn codi'r pwnc hwn. Os na fyddwch wedi achub y blaen arnaf fe greaf bwt o beth ar gyfer Ymerodraeth Persia fy hunan. Lloffiwr 16:53, 6 Ebrill 2007 (UTC)
- Diolch i Rhion am greu erthygl ar Ymerodraeth Persia. Lloffiwr 17:17, 6 Ebrill 2007 (UTC)