Sgwrs:Cadwynfyr

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Eisingrug

Diolch, Lywelyn, am dy hen bennill rhwydd a naturiol. Yn anffodus, nid yw'r pennill yn "gadwynfyr" yn ôl diffiniad Dafydd ab Edmwnd, sef unig ddiffiniad yr erthygl hyd yn hyn. Y rheswm am hynny yw nad yw "caseg winau" yn ffurfio cynghanedd ei hun. Efallai bod diffiniad arall o gadwynfyr cyn i Ddafydd ab Edmwnd ei gaethiwo i wahaniaethu rhwng y glêr a'r beirdd graddedig - os oes; y mae'n werth sôn am hynny gan ei fod yn bennill hoffus dros ben. Diolch eto, Eisingrug 21:53, 27 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Cadwynfyr".