Sgwrs:Calan Mai

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Henffych, Llywelyn! Hen bryd i ni gael erthygl ar hyn, ond cofia dydi hi ddim yn ŵyl Geltaidd yn unig - ceir traddodiadau Calan Mai mewn sawl gwlad a diwylliant arall yn Ewrop (yn cynnwys defod y fedwen Fai). Anatiomaros 21:11, 20 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Diolch a heffych Anatiomaros! Ydy, mi wn. Bum yn ystyried dwy - y naill ar yr ŵyl a'r llall ar y duw Beltane. Dwi'n meddwl fod dathliadau Calan Mai (gan gynnwys y Fedwen Fai) drwy'r byd - yn tarddu o'r hen wyl Geltaidd. Be di dy farn. Ond mi allwn wahaniaethu yn nes ymlaen; gad i mi ymchwilio ymhellach. Canolbwyntio ar y duwiau wna i ar hyn o bryd. Diolch eto. Llywelyn2000 21:17, 20 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Dim problem. Ffordd o ateb dy gwestiwn "oes gennym ni erthygl yn barod?" hefyd! Dwi'n meddwl fod gwreiddiau Calan Mai yn gorwedd yn y diwylliant Indo-Ewropeaidd cynhanesyddol, ond paid â gofyn am gyfeiriadau ar hyn o bryd - rhy brysur! Cofion, Anatiomaros 21:25, 20 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Calan Mai".