Sgwrs:Cwm Rhondda (emyn-dôn)

Sylw diweddaraf: 12 o flynyddoedd yn ôl gan Hazard-Bot ym mhwnc Dolen wallus 2

Ail-gyfeirio

golygu

Dw i ddim yn deall pam fod Arglwydd, Arwain trwy'r anialwch wedi ei ail-gyfeirio at Cwm Rhondda (Emyn-dôn). Emyn yw'r geiriau hyn ac fe ellir eu canu ar amryw o donnau. Rwyn derbyn y gellir sôn y cennir y geiriau hyn ar Cwm Rhondda ond fe ddylai yr emyn gael dalen ei hun oni ddylai. Rwyn sylwi bod yr un peth wedi digwydd i emyn Ann Griffiths Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd.

Rhaid gwahaniaethu rhwng yr emyn (Y Geiriau) a'r dôn yn fy marn i gan nid yw yn dilyn bod yr emyn yn gyfyngedig i un dôn, nac ychwaith tôn yn gyfyngedig i un emyn.

Beth mae pobl yn feddwl? Dyfrig 22:17, 28 Mai 2007 (UTC)Ateb

Mae'n flin gen i am gymryd wythnos i ymateb. Wnes i greu'r ail-gyfeiriadau gan fod yr emynau yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, ond dwi'n cytuno gwahaniaethu rhwng y geiriau a'r dôn os ydych chi neu rywun arall yn gwybod digon amdanynt i greu erthyglau ar wahân ar gyfer nhw. —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:30, 7 Mehefin 2007 (UTC)Ateb
Mae tipyn o ddad-wneud wedi bod fan hyn - nid er gwell bob amser yn fy marn i. Rwyn sylwi bod Emyn-dôn Gymreig wedi ei newid i Emyn-dôn Cymreig. Mae tôn yn fenywaidd yn fy marn ac felly dylid cadw at Emyn-don Gymraeg. Bwriadaf ei newid os nad oes yna wrthwynebiad. Dyfrig 16:52, 3 Tachwedd 2007 (UTC)Ateb
Wrth gwrs, maddau imi am hynny. Dwi wedi ei newid. —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:52, 8 Tachwedd 2007 (UTC)Ateb

Dolen wallus

golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:28, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

Dolen wallus 2

golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:28, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Cwm Rhondda (emyn-dôn)".