Sgwrs:Cymraeg

Latest comment: blwyddyn yn ôl by Craigysgafn in topic Dolen wallus 3


Y tabl yn yr erthygl

Beth yw ffynhonell y ffigurau yn y tabl o siaradwyr Cymraeg? Ai y sensys? Ai canran y boblogaeth sy'n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg yw'r ffigurau % yn y tabl? Ai nifer y bobl sy'n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu cymraeg yw'r ffigurau poblogaeth yn y tabl? Lloffiwr 13:44, 5 Rhagfyr 2005 (UTC)Ateb

Mae golygydd anadnabyddus wedi newid nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 800,000 heb ffynhonell. Dwi wedi troi'r ffigwr'n ôl i rywbeth mwy ceidwadol (y ffigwr a oedd yno yn barod), ond dylid ychwanegu paragraff i'r testun yn nodi'r anawsterau sy'n codi wrth amcangyfrif y nifer (a'r gwahaniaethau enfawr rhwng y Cyfrifiad, y Welsh Labour Force Survey, poliau gan S4C ac ati). Daffy 23:59, 14 Tachwedd 2006 (UTC)Ateb

Yn cytuno bod angen ysgrifennu nodyn ar hwn. Yn y pen draw rwyn meddwl y bydd yr adran ar niferoedd siaradwyr Cymraeg yn tyfu'n is-erthygl ar fesur niferoedd siaradwyr Cymraeg o gyfrifiad 1891 hyd heddiw. Lloffiwr 15:56, 9 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb

Gloywi'r erthygl golygu

Credaf fod angen cysondeb o ran defnydd Celteg/Celtaidd ac Indo-Ewropeg/Indo-Ewropeaidd yma. Mae'n well gen i Celteg/Indo-Ewropeg am yr ansoddeiriau yn ogystal â'r ieithoedd unigol - mae'r cyd-destyn yn gwneud yn glir ai un iaith neu deulu o ieithoedd sydd dan sylw.

Rydw i am dynnu'r OC o'r blynyddoedd gan ei fod yn edrych yn chwithlig (does neb yn deud ol-Crist-600), ac mae'n ddi-angen.

Defnyddir "Cymraeg Modern" a "Chymraeg Fodern" yn yr erthygl - mae angen cysondeb. All rhywun gyda mwy o wybodaeth ieithyddol awgrymu pa un sy'n gywir os gwelwch yn dda?

Yn yr adran "Cymraeg ar y we", ceir yr ymadrodd "siopau siarad". A fyddai "fforymau gwe" yn derm well?

Mae angen son am Batagonia yma, yn amlwg, ond dwi'm yn meddwl ei bod yn haeddu mwyafrif paragraff cyntaf yr erthygl. Dwi am symud y rhan fwyaf o hwnnw i'r adran "Hanes siaradwyr, ...y Gymraeg".

Mae angen gwneud rhywbeth ynghylch y frawddeg Yn wir nid yw Cymraeg llafar rhai fawr gwell na brawddegau gramadegol Saesneg ac ambell i air Cymraeg yn lle gair Saesneg. - nid yw hyn osodiad gwyddoniadurol di-duedd. Mae angen mwy o son am gyfraniad dysgwyr i dwf a datblygiad yr iaith yn ogystal.

--Llygad Ebrill 14:38, 8 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Diolch iti am fwrw golwg manwl dros yr erthygl hon.
  • Ynglŷn â'r frawddeg am y brawddegau gramadegol Saesneg fe allem ei arall-eirio fel hyn: Mae rhai yn siarad Cymraeg wedi ei gyfansoddi o frawddegau gramadegol Saesneg ac ambell i air Cymraeg yn lle gair Saesneg. Ffaith moel yw hwn heb unrhyw farn yn agos ati - ces afel ar enghraifft ohono p'ddornod pan glywes i'n hunan yn sôn am 'dorri gwair'! OND rhaid dweud nad oes gennyf ffynhonell ysgrifenedig i gyfeirio ati felly dileuaf y frawddeg yn llwyr am nawr. Cawn ddisgwyl i rywun sy'n gwybod rhagor na fi i ehangu'r paragraff hon.
  • Dwi wedi gwirdroi'r diwygiadau i deitlau cerddi. Yn ôl y Golygiadur dyfynodau sy'n addas ar gyfer cerddi unigol, caneuon ac alawon. Defnyddir italeiddio fel arfer ar gyfer cerddi epig, cyfrolau o gerddi, dramau, llyfrau, cylchgronau, ffilmiau, rhaglenni teledu a phethau tebyg (Rhiannon Ifans, Y Golygiadur (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Cyf, 2006)).
  • Rwyf wedi diwygio Cymraeg Fodern i Cymraeg Modern yn y gobaith mae hwn yw'r dewis cywir!

Lloffiwr 13:10, 11 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Diolch am yr ymateb. Mae'n ddrwg gen i am newid teitlau'r cerddi, doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r confensiwn a soniaist amdano. Mae dy frawddeg am bobl yn defnyddio gramadeg Saesneg yn edrych yn gwbl dderbyniol i mi (dim ond yr ymadrodd 'fawr gwell' oedd yn fy mhoeni i yn y fersiwn cynt a deud y gwir). Gyda llaw - beth sy'n bod â 'thorri gwair' yn y Gymraeg? Mae hon yn awgrymu bod gwahanol ystyr i 'ladd gwair' a 'thorri gwair'. Mae 'mam yn gofyn i mi 'olchi fyny' pan mae hi am i mi olchi llestri weithiau :-) Hwyl, --Llygad Ebrill 21:16, 11 Mawrth 2007 (UTC)Ateb
Rwyf wedi dysgu rhywbeth newydd a difyr heddiw - sef bod 'torri gwair' yn bodoli yn ogystal â 'lladd gwair'. Ond gan nad yw eto'n fis Mehefin ... Lloffiwr 19:34, 12 Mawrth 2007 (UTC)Ateb
Mae Lloffiwr wedi gofyn a oes gennyf sylwadau i'w cynnig ar y defnydd o'r termau Indo-Ewropeg/Indo-Ewropeaidd. Dwi wedi arfer defnyddio Indo-Ewropeg fel enw ar yr iaith (ddamcaniaethol) ond Indo-Ewropeaidd am yr ieithoedd sy'n deillio ohoni. Dwi ddim wedi cael amser i edrych ymhob llyfr perthnasol eto (nid bod llawer ohonynt!), ond agorais y gyfrol Y Gwareiddiad Celtaidd i weld be sydd gan D. Ellis Evans i'w ddweud yn ei ysgrif 'Yr Ieithoedd Celtaidd'. Sylwer ar y teitl yn un peth. Mae'n gywir cyfeirio at Indo-Ewropeg a'i chyfnodau, megis Indo-Ewropeg Cyntefig, ond nid yw'r Gymraeg a'r Eidaleg, ac ati, yn "ieithoedd Indo-Ewropeg" gan fod Indo-Ewropeg ei hun yn iaith. Felly mae'r Gymraeg yn iaith Geltaidd ac yn iaith Indo-Ewropeaidd sy'n deillio o'r fam-iaith dybiedig Indo-Ewropeg. Mae Galeg yn un o ieithoedd Celtaidd y cyfandir; dydi hi dim yn un o "ieithoedd Celteg y cyfandir" am nad yw'n bosibl i ddwy neu ragor o ieithoedd gael eu cynnwys mewn iaith arall (dim ond tafodieithoedd sy'n gwneud hynny). Dyna fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa, beth bynnag. Gobeithio fod hynny'n gymorth yn y drafodaeth.
Ail bwynt bach. Fel arfer defnyddir OC o flaen dyddiad lle nad yw'n eglur yn y cyd-destun os ydyw'n ddyddiad Cyn Crist neu Oed Crist : mae gwneud hynny unwaith yn ddigon. Anatiomaros 20:19, 17 Medi 2007 (UTC)Ateb
Diolch i Anatiamaros am yr eglurhad. Rwyf finnau wedi bod yn twrio mewn llyfrau hefyd! Mae Geiriadur yr Academi yn dawedog ar y mater o gyfieithu Indo-European yn ansoddair ar y teulu iaith. Yn ddiweddar iawn des ar draws y gwerslyfr coleg Ieithyddiaeth: Agweddau ar Astudio Iaith gan T Arwyn Watkins (Gwasg Prifysgol Cymru, 1961). Mae e'n defnyddio'r ansoddair Indo-Ewropëig i ddisgrifio'r teulu iaith Indo-Ewropeg. Dyma edrych wedyn yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a chael y canlynol:
  • Indo-Ewropaidd, Indo-Ewropeaidd, Indo-Ewropëig [cyfaddasiad o'r Saesneg Indo-Europ(e(an)) + -aidd, -ig] ansoddair. Yn perthyn i'r Indo-Ewropeg neu i'r babl a'i siaradai; yn perthyn i'r teulu o ieithoedd sy'n tarddu o'r Indo-Ewropeg neu i'r bobl sy'n eu siarad: Indo-European
  • Indo-Ewropeg enw benywaidd. Mamiaith teulu o ieithoedd a siaredir yn y rhan helaethaf o Ewrop, mewn rhan o orllewin Asia, yn yr India, ac yn Iran: Indo-European (language).
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru eu hunain yn sôn am 'IE: Indo-Ewropeg, Indo-Ewropaidd' ar y dudalen byrfoddau!
I'm clust i mae yna chwithdod ac o bosib amwysedd yn codi o ddefnyddio'r ansoddair Indo-Ewropeg i gyfeirio at ieithoedd sy'n perthyn i deulu'r Indo-Ewropeg. Rwyn cytuno gydag Anatiamaros na ddylwn ddefnyddio Indo-Ewropeg fel ansoddair yng nghyd-destun y teulu iaith. Does dim ots gennyf pa ffurf ar Indo-European y dylwn ei ddefnyddio. Lloffiwr 21:00, 22 Medi 2007 (UTC)Ateb
Diolch i Lloffiwr am y sylwadau diweddaraf. Mae defnyddio Indo-Ewropaidd, Indo-Ewropeaidd neu Indo-Ewropëig fel ansoddair am y teulu o ieithoedd (Indo-European languages) yn fater o ddewis personol :er efallai nad yw'r olaf, Indo-Ewropëig, yn gyffredin iawn erbyn heddiw, maent i gyd yn iawn a safonol. Ond yn bendant dim ond y famiaith sy'n Indo-Ewropeg. Gyda llaw, dwi'n cofio bod rhywrai wedi dadlau dros y term "ieithoedd Indo-Arieg" (neu Indo-Aryeg) am Indo-Aryan languages hefyd. Dwi'n dal i gredu mai Indo-Arieg sy'n iawn am yr iaith/cangen iaith (o Indo-Ewropeg) ond Indo-Ariaidd (Indo-Aryan) am y teulu a'i ieithoedd : pam gael eithriad arbennig yn yr achos hwnnw? Anatiomaros 21:36, 22 Medi 2007 (UTC)Ateb
Ydych chi'n cofio lle mae'r drafodaeth ar Indo-Aryeg/Indo-Ariaidd? Dwi'n cofio newid Indo-Iranaidd i Indo-Iraneg yn fy anwybodaeth ar y rhestr Ieithoedd Indo-Ewropeaidd. :-) Oes pwrpas rhoi paragraff am hwn ar y canllawiau iaith (a bwrw bod cytundeb i gael?). Lloffiwr 21:54, 22 Medi 2007 (UTC)Ateb
Mae'n ddigon posibl mai am Indo-Iraneg roeddwn i'n meddwl wedi'r cyfan : rhai mod i'n dechrau drysu! Buasai paragraff byr yn y canllawiau yn syniad da mae'n debyg - gellid rhoi dolen i'r sgwrs yma i arbed lle ac amser. Anatiomaros 21:59, 22 Medi 2007 (UTC)Ateb

Arwydd ffordd dwyieithog yn Lloegr golygu

Mae'r golygiad diweddaraf ynglŷn ag arwydd dwyieithog ar draws y ffin yn Lloegr, yn yr ail baragraff, yn ffaith difyr ond dibwys. Beth am ei symud i'r troednodion? Lloffiwr 22:24, 14 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Cytuno. Roedd yn bwynt eithaf dibwys yng nghyd-destun paragraffiadau agoriadol un o'n herthyglau gorau. Wedi ei droi'n droednodyn. Anatiomaros 22:40, 14 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Symlhau golygu

Mae hon yn erthygl rhy hir yn fy marn i. Byddai'n bosib ei symlhau drwy grynhoi'n gynnil-gwta llawer o'r gwaith a chreu rhai erthyglau swmpus newydd o'r stwff sydd gennym yma e.e. Datblygiad ieithyddol y Gymraeg neu Hanes y Gymraeg. Oes 'na farn? Llywelyn2000 22:03, 3 Ebrill 2011 (UTC)Ateb

Datblygiadau technoleg yn yr iaith Gymraeg golygu

Oes unrhyw gefnogaeth tystiolaeth i'r hyn a ddywedir yn yr adran hon taw gwaith y bardd Robin ap Llwyd oedd y wefan gynhwsyfawr gyntaf yn y Gymraeg? Does chwaith dim ffynhonell i'r hyn a ddywedir am wefannau cyhoeddus Cymraeg. Mi ellid dadlau bod nifer fawr iawn o wefannau personol neu fasnachol Cymraeg erbyn hyn. Oes unhryw ystadegau i gefnogi'r assumption yn yr erthygl? Gwell ei dynnu os nad oes.
Credu bod angen ail-edrych ar sut mae hwn yn cael ei osod. Mae gwaith academaidd ardderchog Rhys J Jones "Cilfachau Electroni: Geni'r Gymraeg ar-lein" (Cyfnodolynm Cyfrwng, 2010) yn werth ei ddyfynnu yma dwi'n meddwl. Wn i ddim os yw'n addas chwaith cael hysbyseb parhaol i Orange a Samsung am eu ffôn o ystyried i'r un ohonyn nhw fentro defnyddio unrhyw ryngwyneb Cymraeg ar unrhyw ffôn ers hynny. Stynt PR, a dim arall ymddengys erbyn hyn. --Rhodri ap Dyfrig 10:32, 16 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb

At "Yn 1996 rhoddwyd holl farddoniaeth y Prifardd Robin Llwyd ab Owain ar y we fyd eang; dyma oedd y wefan gynhwysfawr gyntaf yn y Gymraeg" rwyt yn cyfeirio gyntaf, ie? Dwi'n cytuno - oni bai gall rhywun ddarparu ffynhonnell ddibynadwy, mae'n honiad a barn personol, felly bydd angen ei dynnu. Ac at "Y sector gyhoeddus yw'r sector sy'n cynhyrchu'r mwyafrif llethol o dudalennau Cymraeg ar y we" rwyt yn cyfeirio? Eto, dwi'n cytuno â thi. Nid yw'r llyfr gen i (nac ydw i wedi clywed amdano ychwaith), felly os yw e gennyt ti, cer amdani i ysgrifennu rhywbeth :) Byddwn yn dadlau tynnu'r cynnwys ynghylch y ffôn Cymraeg, ond efallai torri'r nifer o eiriau sydd yno? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 14:41, 16 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Dwi'n gweld bod rhai golygiadau wedi cael eu gwneud i'r darn am Robin Llwyd, ond dwi wedi mynd ati i drio rhoi chydog mwy at hynny gan roi'r cyhoeddi digidol yn y cyd-destun ehangach. Hapus i drafod unrhyw newidiadau / dileadau dwi wedi eu gwneud yma.
Mae gen i un cwestiwn arall am gyfeirnod yma: http://cy.wikipedia.org/wiki/Cymraeg#cite_note-33 1997. Dwi ddim yn siwr beth mae hwn yn ei ychwanegu at y cyfeirnod Dafydd Pritchard os yw hwnnw yn dyddio cyhoeddiad y llyfr ar y we (er dwi'n derbyn bod gwefan Robin Llwyd yn rhoi'r dyddiad hefyd). Mae'r drafodaeth ar Welsh-L yn nodi bod y gyfrol arlein, ond ym Mehefin 1998 mae'r sgwrs. Oes angen y cyfeirnod hwnnw felly? --Rhodri ap Dyfrig 23:39, 16 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb

Ar y 4ydd Chwefror 1997 danfonwyd cyhoeddiad at y grwp Welsh-L yn eu hysbysu: Pwnc: Rebel ar y We

Peth amheuthun yw eich hysbysu o fodolaeth cyfrol o farddoniaeth ar y We. Dyma damaid i aros pryd:

Y Gymraeg
Iaith drydan ddiwahanod - degawdau
Digidol, iaith barod,
Yn y dim rhwng mynd a dod
Yn dadweindio Prydeindod.

Trowch i:

http://ourworld.compuserve.com/homepages/sycharth

i weld chwaneg o rwts y Prifardd Robin Llwyd.

Cofion serchus,

Bardd y We

(Robin Llwyd)

Roedd hyn ar y pryd yn garreg filltir pwysig a nodwyd honno gan Adolygiad o'r wefan yn Llais Llyfrau. Mae'r hysbysiad i'w weld heddiw ar fama. Celtica2 07:32, 17 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb

Dolen wallus golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:39, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

 Y--Craigysgafn (sgwrs) 14:03, 22 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb

Dolen wallus 2 golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:39, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

 Y--Craigysgafn (sgwrs) 14:03, 22 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb

Dolen wallus 3 golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:40, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

 Y--Craigysgafn (sgwrs) 14:03, 22 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb

Rheoleiddio golygu

Nid yw'r iaith Gymraeg yn cael eu 'rheoli' gan Llywodraeth Cymru na'r Comisiynydd Iaith a mae cyfeirio at hyn yn yr erthygl yn dwyllodrus iawn. Mae hyn yn wahanol i sefyllfa Ffrangeg lle mae yna reoleiddio 'swyddogol' er yn amlwg mae siaradwyr yn rhydd i ddefnyddio unrhyw eiriau a ffurfiau mae nhw eisiau.

Yn amlwg mae gan y Llywodraeth bolisiau o ran defnydd a hyrwyddo yr iaith a mae gan y Comisiynydd gyfrifoldebau o ran defnydd yr iaith gan rhai cyrff penodol. Ond nid yw hynny yn 'rheoli' o gwbl. Mae yna nifer o gyrff sy'n safoni termau mewn rhai meysydd ond does neb yn gosod rheolau ar yr iaith eu hun (a mi fasen i'n awgrymu fod unrhyw iaith yn y fath sefyllfa wedi marw fel iaith fyw). Fasen i'n awgrymu dileu y darn yma yn cael eu ddileu am ei fod yn gamarweiniol iawn.Dafyddt (sgwrs) 23:47, 28 Tachwedd 2014 (UTC)Ateb

Rwy'n cytuno nad oes neb yn rheoli'r iaith Gymraeg (rules) , ond yn bendant mae'n cael ei rheoleiddio (regulates), a'r corff sydd bennaf gyfrifol am ei reoleiddio yw Llywodraeth Cymru. Y Llywodraeth sydd yn gyfrifol am statws statudol yr iaith; y Llywodraeth sy'n penodi Comisiynydd yr Iaith i sicrhau ufuddhau i ddeddfau'r iaith, y Llywodraeth sy'n pennu cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus parthed hyrwyddo'r iaith a defnyddio'r iaith mewn meysydd megis iechyd ac addysg ac ar arwyddion briffordd. Y Llywodraeth sy'n talu (yn bennaf) am gyrff megis Canolfan Bedwyr sy'n gosod safonau iaith gydnabyddedig. Rwy'n gweld dim byd oll o'i le a dweud bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am reoleiddio'r Gymraeg (nid ei reoli), cyn belled a bod hyd a lled y rheoleiddio yn cael ei egluro yma neu mewn erthyglau cyswllt. AlwynapHuw (sgwrs) 03:42, 22 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Mae hyn yn gwneud synnwyr, Alwyn. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 07:33, 22 Chwefror 2015 (UTC)Ateb


A oes safon? golygu

Rhoddais gynnig ar adolygu'r erthygl hon o ran iaith. Roedd aml frawddeg yn gwbl garbwl, i'r graddau nad oedd modd eu deall heb gryn drafferth. Yn ychwanegol at hynny, mae camdreiglo, diffyg treiglo a defnydd anghywir ac amhriodol o ferfau cryno yn rhemp ynddi; ac yn wir, yn Wicipedia Cymraeg drwyddi.

Mae golygyddion eraill yn amlwg â'u bryd ar Seisnigo'r iaith, am fod llawer o'r hyn a sgrifennir yma'n darllen fel cyfieithiad llythrennol a hynod drwsgl o'r Saesneg, heb sôn am fordwy o eiriau Saesneg di-angen. Gwelais 'switshio côd', sef cyfnewid côd, er enghraifft. er bod term safonol eisoes. Ai diogi sydd yn gyfrifol am y 'bathaid' Seisgar hwn, neu ddiffyg adnoddau ieithyddol ar ran y golygydd? Os nad ydys yn cymeryd gofal, bydd gennym ryw Saesneg erthyl gydag ambell air Cymraeg a gramadeg lled-Gymreigaidd, ac nid iaith Gymraeg.

Enithing gôs in Welsh, bêcos wî dônt wont tw sgêr pipl widd gramar and acsiwal Welsh wyrds, so jyst iws Inglish wyrds insted. Is ddis ddy langwij wî wont tw li?! Long lif ddy Welsh langwij! —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 2A00:23C0:C266:9400:E949:AF43:4238:37A2 (sgwrscyfraniadau) 15:15, 7 Tachwedd 2016

Braf cael ymateb a chwestiwn. Ond y cwbwl sydd angen ei wneud yw cywiro unrhyw gangymeriadau'n dawel bach. Byddai'n well pe baet yn defnyddio enw Defnyddiwr, fgyda llaw. Does na ddim UN safon, bellach, fel y gweli o erthyglau yn Golwg neu ddarlleniadau'r BBC ac S4C! Yr hyn sy'n bwysig yn fy marn i ydy fod y darllenydd yn ein deall. Gyda llaw, rwyt wedi newid:
'rhoddodd Bethan Williams, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ymateb cymysg,' i
'mynegpdd Bethan Williams, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ymateb cymysg'
Cymer bwyll wrth bwyntio bys, os gweli di'n dda! Mae gent ti lithriad (teipio) yn 'mynegodd', ac nid 'mynegi ymateb' wyt ti yn Gymraeg, ond 'rhoi ymateb'. Wnei di hefyd arwyddo dy sylwadau ar dudalennau sgwrs efo pedwar sgwigl (tilde). Diolch. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:14, 7 Tachwedd 2016 (UTC)Ateb
Oes, mae ganddo yntau nifer o wallau! Dw i'n siwr dy fod yn cwbwl gywir ein bod wedi'i gyfarfod droeon o'r blaen, John; gweler Sgwrs Defnyddiwr:95.150.72.201. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:39, 8 Tachwedd 2016 (UTC)Ateb

IPA golygu

Gan nad yw'r defnyddiwr heb fewngofnodi, fedra i ddim sgwrsio gydag e/ hi ar ei ddalen Sgwrs. Dw i newydd dileu {{IPAc-cy|k|ə|m|ˈ|r|ɑːɨ|ɡ}} gan na fedraf ei wiro. Mae'r 'e' i'w weld i mi am y sain 'y' yn anghywir, ond wn i fawr ddim am yr IPA. Unrhyw gymorth? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:12, 8 Awst 2019 (UTC)Ateb

Mae'n bosib defnyddio gwefan fel hwn i drosi IPA i lais a mae'n swnio'n iawn (heblaw rolio yr r sy'n gyfyngiad o'r syntheseinydd llais. --Dafyddt (sgwrs) 23:20, 8 Awst 2019 (UTC)Ateb
Diolch, Dafydd. Mae hwn yn newydd i mi! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:55, 10 Awst 2019 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cymraeg".