Sgwrs:Cynghanedd lusg

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Porius1

'Dydw i ddim yn cytuno â'r sylwadau sy'n cloi'r erthyglau am wahanol gynganeddion sy'n sôn am eu cryfder a'u sain, oherwydd mae pob un llinell yn wahanol. Gall y gynghanedd lusg fod yn hynod ansoniarus weithiau, a gall y groes o gyswllt fod yn dyner, megis "Rhannu'i wewyr yn eang". (Sylwad gan Eisingrug)

Gallet ti sgwennu hyn i mewn 'te, sef bod gwahaniaethau weithiau, a rhoi enghreifftiau. Cofia lofnodi dy byst gyda pedwar sgwigl (~~~~). -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:03, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Mae'r pwynt yn un dilys - barn bersonol sydd yma ar hyn o bryd. Byddai'n well dyfynnu barn beirniad llenyddol adnabyddus ar y mater. Porius1 05:56, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cynghanedd lusg".