Sgwrs:Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd
Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Yr enw(au)
Yr enw(au) golygu
Yn ôl y wefan swyddogol, enw Cymraeg y cynghrair yw CYNGRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD. Os cywir hynny, roedd yr erthygl sydd gennym yn barod, cyn wagio'r dudalen, dan yr enw iawn. Rydych yn dweud fan 'na (ar y dudalen ei hun yn lle ar y dudalen Sgwrs), fod yr enw yn anaddas gan fod cynghrair arall yn ardal Wrecsam. Iawn felly, be ydy enw'r ail gynghrair? A pa sail sydd gennych i'r enw "Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd"? Rhaid i ni ddefnyddio enwau swyddogol sefydliadau (os ydynt ar gael yn Gymraeg) yn lle bathu enwau newydd ein hunain, neu bydd yn draed moch arnom. Anatiomaros 21:02, 11 Tachwedd 2008 (UTC)
- Defnyddwyd yr enw byrach yma hefyd [1] Alan 21:23, 11 Tachwedd 2008 (UTC)
- Diolch, Alan. Ond buasai'n braf cael gair o esboniad gan y cyfranwr yn lle gwagio'r hen dudalen a dweud yn unig "dydy hyn ddim yn enw addas...". Does gen i ddim wrthwynebiad i newid enw'r erthygl, ond mae gennym ni ein trefn ar y wicipedia hefyd, a'r cwbl welais i oedd yr erthygl gyntaf yn diflannu. Be wnawn ni efo hi felly? Ailgyfeirio i fan 'ma neu ei gweud yn dudalen wahaniaethu (a be di enw swyddogol y gynghrair arall?). Anatiomaros 21:29, 11 Tachwedd 2008 (UTC)
- Wps, fi sydd wedi camddeall, ar frys eto. Felly mae'r BBC yn denfyddio'r enw oedd gennym ni yn gyntaf. Be wnawn ni efo'r dudalen HON rwan, felly? Anatiomaros 21:33, 11 Tachwedd 2008 (UTC)
- Mae'n ymddangos mai "Welsh National League (Wrexham area)" (dim enw Saesneg swyddogol ar y wefan) yw'r gynghrair arall (gweler en:Welsh National League (Wrexham Area)). Ond dwi'n fawr o ddilynwr pêl-droed - efallai bod 'na un arall eto?! Anatiomaros 21:39, 11 Tachwedd 2008 (UTC)