Sgwrs:Cyngor Wicaidd

Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Xxglennxx ym mhwnc Enw'r erthygl

Fedra i ddim gwneud pen na chwmffon o:

Mae'r ffurflen mwyaf cyffredin yr Araith Wicaidd yn mynegi, "Os y brifai hi ddim, gwnewch beth yr hoffwch, ond y mae'r frawddeg honna'n frawddeg fyrhaëdig go iawn o Araith Wicaidd llawn.

Os na dderbynir eglurhad, efallai y dylem ddileu'r erthygl gyfan. Llywelyn2000 16:08, 1 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Mae 'na lwyth o destun ar y wici Saesneg. Dwi wedi cywirio'r frawddeg agoriadol ar ôl darllen hynny. (Sgen i ddim syniad be ydy ystyr y frawddeg uchod!). Anatiomaros 18:41, 1 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Enw'r erthygl

golygu

"Cyngor" ydy ystyr "Rede". Does dim sail i'r defnydd o "araith". A dweud y gwir gwell gen i fyddai defnyddio y "Rede" fel enw. Sanddef 01:58, 28 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Dwi'n cytuno gyda thi, Sanddef taw "cyngor" yw ystyr "rede." Bydda i'n newid fe nawr. Xxglennxx 21:04, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Mae dy Gymraeg wedi gwella'n arw Xxglennxx, a'th erthyglau'n llawer mwy eglur a dealladwy nac oeddent flwyddyn yn ôl. Pen-blwydd hapus! Llywelyn2000 21:56, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Aw, diolch yn fawr iawn iti, Llywelyn2000 :) Dwi'n meddwl fy mod i wedi gwella hefyd, ond mae llawer o ramadeg i'w ddarllen o hyd, ond dwi'n meddwl fy mod i'n gwneud yn iawn gyda fe :) Ydwi wedi bod yn cyfrannu ers blwyddyn o hyd! Waw :D Xxglennxx 22:14, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cyngor Wicaidd".