Sgwrs:Dewiniaeth/archif/1

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Sanddef in topic I'w Wneud

Term anghywir am hyn? golygu

Ai dyma'r term priodol yma? Ceir sawl ystyr i'r term 'dewiniaeth', ond y prif ystyron yw "gwaith dewin" (sef hud neu magic) a "divination" (sef rhagweld y dyfodol, darogan - a dyna pam fod gennym y term sêr-ddewiniaeth). Ond mae'r dolenni rhyngwici yn cysylltu ag erthyglau am "witchcraft" a dyna yw bwrdwn yr erthygl hon hefyd. Mae'n wir bod "sorcery" a "witchcraft" yn cael ei nodi gan y rhan fwyaf o eiriaduron fel ystyron i'r gair, ond nid fel y brif ystyr. Yn bersonol, dydy'r gair ddim yn dod â "witsh" i'r meddwl ond 'dewin', fel Gwydion yn y Pedair Cainc neu fel Lloyd George hyd yn oed ("Y Dewin Cymreig"="The Welsh Wizard" nid "The Welsh Witch"!). Camarweiniol braidd? Be gawn ni am "witchcraft" felly a fyddai'n dderbyniol i bawb? 'Gwrachyddiaeth' ydy'r gair agosaf ond a ydy hynny'n dderbyniol i'r neo-paganaidd yn ein plith? Anatiomaros 23:24, 9 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Dewiniaeth yw Witchcraft yn Gymraeg. BBC a Geiriadur Llanbed yw rhai enghreifftiau. Dwi'n deall bod bron mwyaf o bobl yn meddwl am "wizard" (oherwydd cynnwys 'dewin' yn y gair). Mae Cysgeir yn cynnig "Dewiniaeth" neu "Dewindabaeth." Mae Dewiniaeth hefyd yn cyfleu "Wizardism" (wizard = dewin, ism = iaeth), ac mae witchcraft a "wizardism" yr un peth bellach o safbwynt Paganiaeth a Neo-Baganiaeth. Hefyd, nid yw llawer o bobl yn sôn am ddewiniaeth yn y Gymraeg (dwi'n meddwl), felly efallai mae yn gamarweiniol, ond dyna jyst sut mae e. Jyst oherwydd nad yw pawb yn gwybod ystyr gair Saesneg ddim yn golygu nid ydym yn ei ddefnyddio yn y Saesneg. Y peth efo'r Gymraeg hefyd yw bod pobl yn meddwl mai dim ond menywod yn unig yw gwrachod. Dyw hynny ddim yn wir o gwbl. Ni hoffwn i ddefnyddio gair a grëwyd fel 'Gwrachyddiaeth' oherwydd bod y hyn gorfodi meddwl fel hyn. Dwi o blaid o gadw at "Dewiniaeth." Xxglennxx 01:36, 10 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Mae dewiniaeth yn derm dilys. Dach chi'n gwastraffu amser pendroni am wrachod. Disgyblaeth/ymarfer yw dewiniaeth, am hynny y "-iaeth". Ni ellir dweud hynny am hud. Sanddef 23:01, 25 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Ydy, mae'n derm dilys, ond mae'n derm amwys hefyd. Fy mhwynt oedd fod mwy nag un ystyr iddo ond witchcraft yn unig yw pwnc yr erthygl hon. Anatiomaros 23:29, 25 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Dwi'n meddwl ei fod yn amwys dim ond oherwydd nad yw Cymry yn ei ddefnyddio lot, felly nid ydym yn gwybod ystyr y gair go iawn. Mae mwy nag un ystyr i lawer o eiriau yn y Gymraeg, sydd yn wneud ef yn llawer anodd inni greu erthyglau newydd ayyb efo'r gair/geiriau "cywir." Dwi'n cytuno â ti, Anatiomaros, ond dwi'n meddwl ei fod yn well inni gadw'r gair "dewiniaeth" am y pryd hwn. Xxglennxx 23:43, 25 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
GyA (magic): Hud, Hudoliaeth, dewiniaeth, lledrith, swyngyfaredd, hud a lledrith, (Black magic) y gelfyddyd ddu, dewiniaeth ddu, (white magic) dewiniaeth wern/dda, (sympathetic magic) dewiniaeth sympathetig. Beth mae GyA yn dangos yw mai "dewiniaeth" yw'r term cywir lle dan ni'n siarad am arfer penodol (er enghraifft, Chaos magic, sigil magic etc) felly mae'r termau Hud Caos ar wici yn anghywir. Yn y cyd-destun o jyst "dewiniaeth" ar ei ben ei hun, mae hynny'n cyfeirio at "magic(k)" fel disgyblaeth/ymarfer, tra mae geiriau fel "hud" a "lledrith" yn amwys ac yn amhenodol (fel "ooh, it's magic" neu "hey, it's a kinda magic, magic, magic - cue guitar solo)Sanddef 23:49, 25 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
"Dewin, gwyddon, hudwr, swyngyfareddwr, brudiwr, chwidog, widw, dyn cyfarwydd, consuriwr, Dyn Hysbys - ond nid rheibiwr." (Kate Bosse Griffiths, Byd y Dyn Hysbys (tud. 7). Cymrwch eich dewis! Gellid ychwanegu at y rhestr hefyd. Anatiomaros 00:00, 26 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Iawn, gadewch i ni dderbyn y term 'dewiniaeth', ond mae angen egluro dau beth. 1. Bod mwy nag un ystyr i'r term. 2. Bod termau amgen yn bodoli am bwnc yr erthygl. Anatiomaros 00:04, 26 Chwefror 2010 (UTC)Ateb


Yn blwmp ac yn blaen, nid yw'r erthygl yma yn ddilys. Yn gyntaf dylai'r erthygl am "hud" fod dan yr enw "dewwiniaeth". Yn ail dylai'r erthygl am "witchcraft" fod dan yr enw "gwrachod" gan nad oes gan y Gymraeg air i wahaniaethu rhwng dulliau gwahanol o ddewiniaeth. Sanddef 02:52, 26 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Dwi'n sori, ond ti'n anghywir. Mae'r erthygl yn hollol ddilys. Mae Hud yn Magic, and mae Dewiniaeth yn Witchcraft. Mae enw'r erthygl ar Wicis eraill yn "Witchcraft" - "Hexe" ar DE (i wneud efo 'hex' - gwrach) er enghraifft. Mae pawb arall yn gallu gweld bod yr enwau yn cyd-fyd â'i gilydd. Mae "gwrachod/gwrach" yn golysgu "witches/witch," felly nid yw'n gweithio fan hyn hefyd. Xxglennxx 01:11, 27 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Na, TI sy'n hollol anghywir. Witchcraft a Magic yw geiriau Seasneg, nid termau Cymraeg. Nid yw'r gair "witchcraft" yn bodoli yn Gymraeg, na "magic" ychwaith. Geiriau Saesneg ydan nhw! Rydym ni'n defnyddio'r gair "dewiniaeth" yn lle "witchcraft" AC yn lle "magic" yng nghyd-destun disgyblaeth/ymarfer oherwydd ymarfer ydy, sef dull o weithredu. Ni ellir cyfieithu erthyglau o'r Seasneg gair-am-air, ond fesul cymal a brawddeg. Fel roedd Llygad Ebrill yn dweud ddoe mewn sgwrs arall: Does dim cyfatebiaeth union rhwng geiriau Cymraeg a geiriau Saesneg. Yn ôl Cysgeir gall ddewiniaeth olygu divination, necromancy, sorcery, witchcraft neu wizardry, a gall hud olygu decoy, incantation, lure, magic, spell neu wizardry; a gall magic olygu dewinbadaeth, dewiniaeth, neu hud (wrth gwrs mae mwy fyth o ystyron nad ydynt yn y geiriadur). Felly mater o dewis yr ystyr cywir sydd yma. Mae'r gair hud fel arfer yn cael ei ddefnyddio am un weithred(e.e. spells ydi hudion), neu fel ansoddair (y ffon hud, y carped hudol), tra bod geiriau -aeth yn cyfeirio at ddisgyblaeth neu ffordd o wneud pethau (gwyddoniaeth, athroniaeth a.y.b.). Dylai'r erthygl yma ar "Witchcraft" fod yn adran o'r erthygl "Gwrach".Sanddef 06:02, 27 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
O ie, ac i bwyntio allan y bleedin obvious: Dewiniaeth = Dewiniaeth Sanddef 10:22, 27 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

I'w Wneud golygu

1. Symud y darnau am wrachod i Gwrach a chyfuno'r darnau am ddewino â Dewiniaeth (ocwlt) 2. Cael gwared o "Gweler hefyd". Does dim pwynt mewn rhestr o ddolenni i erthyglau sydd ddim yn bodoli.

Sanddef 19:00, 27 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Dewiniaeth/archif/1".