Sgwrs:Diffyg ar yr haul
Sylw diweddaraf: 9 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Arguddiad
Arguddiad
golyguRwy' wedi gweld defnydd "Arguddiad" am "Eclipse" ac hefyd "Arguddiad yr Haul" yn lle "Diffyg ar yr Haul". Mae'r gair dros 200 mlynedd o oedran yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, er mae'n debyg "occultation" yw'r cyfieithiad uniongyrchol. Oes unrhywun gydag unrhyw wybodaeth am y gair 'Arguddiad'? Os mae'n air mewn defnydd cyfoes fel mae'n ymddangos, fuasai'n dda i'w ychwanegu at yr erthygl. --Huwbwici (sgwrs) 19:45, 11 Mai 2015 (UTC)
- Dw i wedi'i ychwanegu, gan ei fod yn gymharol hen -ac ar dy gais. Chlywais mohono'n air byw, ar lafar nac yn cael ei ddefnyddio'n naturiol, fodd bynnag - yn wahanol felly i 'diffyg', sy'n gwbwl fyw, ac yn llawer hŷn. Y drefn yn Saesneg ydy defnyddio'r UN gair safonol, ac mae hyn yn rhoi cryfder i'r iaith. Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn gwneud hyn yn ddiweddar, a ac yn fy marn i, dyna ddylem ni ei wneud, gan nad geiriadur llawn o hen eiriau marw mo Wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:01, 12 Mai 2015 (UTC)
- Cytuno. Mae'r gair yn gyfoes ac i'w weld ar Trydar, er enghraifft (ond llai o ddefnydd na "Diffyg yr Haul"). Astudiais ffiseg trwy'r Saesneg ond "Arguddiad" oedd y term Cymraeg glywais i gyntaf a dim ond gyda'r 'diffyg' ddiweddar ddysgais am "Diffyg yr Haul", felly hwnnw yw'r term anarferol i fi! Yn dechnegol mae "Diffyg yr Haul" yn fersiwn arbennig o "Arguddiad" (fel yn Saesneg mae "Solar Eclipse" yn fersiwn arbennig o "Occultation"), ac efallai mae'n werth creu tudalen "Arguddiad" (fel sydd yn y Saesneg) i eglurhau pethau ond bydd rhaid i fi adolygu fy ffiseg cyn meddwl gwneud y fath beth! Diolch am y newid. --Huwbwici (sgwrs) 20:40, 13 Mai 2015 (UTC)
- Difyr iawn. Chlywais i erioed mo'r term 'arguddiad' cyn rwan, dwi'n cyfadde, ond wedyn doedd 'na ddim gwersi gwyddoniaeth yn Gymraeg pan oeddwn i yn yr ysgol (ac dwi ddim yn sôn am Oes Fictoria!). Yn ôl GPC, ystyr yr enw gwrywaidd 'arguddiad' yw "Gorchuddiad, ymguddiad; covering, occultation", ac rydym ni'n ddyledus i'r hen Wm. Pughe amdano (ei Welsh and English Dictionary [drwg]enwog, 1793). Mae'r term 'diffyg (ar yr haul ayyb)' ar y llaw arall yn hen iawn gyda'r cofnod cyntaf o 'diffyg ar y lleuad' i'w gael yn Llyfr Coch Hergest (tua 1400 ond mae'r testun yn gynharach eto). Mae'r term yn gyffredin ar lafar ac mewn print o hyd felly 'diffyg' amdani, yn fy marn i, er y dylem nodi'r defnydd o 'arguddiad' hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 23:12, 13 Mai 2015 (UTC)