Sgwrs:Economeg

Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Cystadlaethau

Cystadlaethau golygu

Ddim yn siwr o ystyr cystadlaethau yn y frawddeg: Mae'n disgrifio'r prosesau hyn yn nhermau y gwahaniaeth rhwng cystadlaethau gwahanol fel y'i gwelir trwy fesuriadau megis mewnbwn, pris ac allbwn. Dw i ddim yn siŵr a yw e'n gwneud synnwyr. Ai am gwmnïau sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd mae'n sôn? Deall dim am economeg felly heb ei newid... Jac y jwc 20:00, 20 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Dydi o ddim yn gwneud llawer o synnwyr fel y mae, yn sicr. Dryslyd iawn. Cymrais Lefel A mewn Economeg flynyddoedd yn ôl (a chrafu trwodd.. jest!), ond dwi ddim yn siwr beth yn union a olygir yma. Mae'n swnio fel jargon wedi ei gyfieithu'n llythrennol o'r Saesneg ond fedra'i ddim "dadgyfieithu" nôl i'r Saesneg i gael yr ystyr yn y lle cyntaf chwaith! Un arall i'w ailysgrifennu rywbryd, mae'n debyg... Anatiomaros 20:12, 20 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Economeg".