Sgwrs:Edmwnd Harri Puw

Sylw diweddaraf: 17 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros

Dwi'n amau fod hyn yn erthygl ffug. Dwi erioed wedi clywed am y dyn nac am "Fro Rhydderch" chwaith. Dydi o ddim yn troi i fyny ar Google (dan y ddau enw) a does dim byd am Fro Rhydderch na'r llyfrau chwaith. Mae 'na lwyth o erthyglau cysylltiedig ar en.wiki, i gyd wedi'u creu dros y dyddiau diwethaf. Yn yr erthygl am Fro Rhydderch dywedir ei bod wedi'i efeillio a dinas Dinan yn Ffrainc, ond does dim cyfeiriad at hynny yn yr erthyglau wiki Ffrangeg a Saesneg am Ddinan. Does dim cyfeiriadau na ffynonellau yn yr erthygl hon na chwaith ar y dwsin o erthyglau diweddar am y gwron hwn a'i fro ar en.wiki. Felly dwi'n amheus iawn am hyn. Os yw awdur yr erthygl yn darllen hyn gobeithio y medra fo dangos nad oes sail i fy amheuon trwy rhoi ffynhonnell i ni. Anatiomaros 16:27, 15 Medi 2007 (UTC)Ateb

Does dim copi o'r gwaith honedig Dictionary of the country language of North Monmouthshire yng nghatalogau'r Llyfrgell Genedlaethol na'r Llyfrgell Brydeinig. Hoax yn fy marn i hefyd. Daffy 17:24, 15 Medi 2007 (UTC)Ateb
Cytuno. Dwi newydd ddod yn ôl o en.wiki ar ôl rhoi nodiadau "hoax" ar yr erthyglau yno a dadnweud y cyraniadau mewn erthyglau eraill (e.e. "Famous Welsh People" lle fe'i rhestrir fel athronydd!). Ar ddiwedd yr ethygl ar Fro Rhydderch dywedir ei fod yn efeilldref gyda Dinan, Llydaw (dim yn wir) ac am Llanddewi Rhydderch (pentref go iawn) dywedir mai ei arwyddair - mewn Esperanto - yw Tio estis fikcio sef "Mae hyn yn ffuglen"! Anatiomaros 17:33, 15 Medi 2007 (UTC)Ateb
This article has also appeared on the English wikipedia and has been nominated for deletion as a hoax. Deb 20:37, 15 Medi 2007 (UTC)Ateb
Diolch, Deb. Yes, by me. See Welsh Wikpedians talk page. Bro Rhydderch over there has just been deleted, by the way. Anatiomaros 20:50, 15 Medi 2007 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Edmwnd Harri Puw".