Sgwrs:Eglwys Gadeiriol Nidaros

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Rydyn ni'n gweithio ar yr erthygl ar yr un pryd! Dwi wedi ychwanegu beth dwi wedi ei wneud, ond mae'n rhaid cyfuno'r ddau! Daffy 21:46, 4 Tachwedd 2006 (UTC)Ateb

Roeddwn i'n ofni buasai hynny'n ddigwydd! 'Da ni ar yr un trywydd heno efo'r pethau Llychlynaidd a Norwyaidd 'ma! Fedri di drwsio fo? Anatiomaros 22:03, 4 Tachwedd 2006 (UTC)Ateb

Dwi wedi trwsio fe. Nei di fwrw golwg drosto? O le gest ti'r dyddiad 1320 ar gyfer cwblhau adeiladu'r eglwys? Daffy 22:10, 4 Tachwedd 2006 (UTC)Ateb

Diolch. Dwi wedi rhoi tipyn o drefn arni. Dim yn berffaith ond mi wneiff y tro am rwan. Ynglŷn â'r dyddiad, dyna sydd mewn un o fy hoff lyfrau ar Norwy, Norway Today (Oslo, 1956). Mae 'na gazetteer yn y cefn. Dwi'n siwr fedra'i siecio rywle arall hefyd ond dyna oedd y llyfr mwya cyfleus ar y pryd! Efallai nad yw'n gywir, serch hynny. Anatiomaros 22:33, 4 Tachwedd 2006 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Eglwys Gadeiriol Nidaros".