Sgwrs:Gogledd Iwerddon

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic God Sêf Ddi Cwîn

God Sêf Ddi Cwîn golygu

Hyd y gwn i does gan Ogledd Iwerddon ddim anthem genedlaethol - swyddogol neu fel arall. Dychmygwch yr ymateb yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon pe baent yn chwarae'r don hon ar achlysuron swyddogol! Dydy'r erthygl ar yr Anglopedia ddim yn rhoi "GSTQ" fel anthem Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn ddadleuol ac mae angen ei diwygio. Anatiomaros 13:51, 2 Medi 2009 (UTC)Ateb

Yn ôl y wybodaeth ar en: mae ei statws fel anthem yn amwys (gweler en:Northern Ireland#Symbols used in Northern Ireland). Anatiomaros 13:56, 2 Medi 2009 (UTC)Ateb
Cytuno; mae'n bwnc dadleuol ac fe ddylid ei ddileu o'r wybodlen. Gellid cyfeirio at y ddadl ynglyn ag anthem a baner yng nghorff yr erthygl. Rhion 16:38, 2 Medi 2009 (UTC)Ateb
Dwi wedi tynnu'r cyfeiriad at GSTQ o'r wybodlen. Fel ti'n nodi, bydd angen adran yn y testun i esbonio'r sefyllfa. Anatiomaros 16:15, 4 Medi 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gogledd Iwerddon".