Sgwrs:Hanes Mecsico

Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Mae'r categorïau ar gyfer y wlad yn stomp. Ceir Categori:Mexico ond México yw enw'r brif erthygl. Ceir Categori:Hanes Mecsico hefyd. Rwan dwi ddim yn siwr be i'w wneud efo'r eginyn 'ma. Be da ni am gael? Oes gan rywun cynnig? Anatiomaros 16:45, 11 Medi 2007 (UTC)Ateb

Gwaeth byth, er bod y brif erthygl yn defnyddio México, mae cyfeiriad ynddi at Ddinas Mexico a "Gwlff Mecsico". Mae chwilio ar Google am "Mecsico" yn dod a tua 11,200 o ganlyniadau (i gyd yn Gymraeg hyd y gwelaf i), felly fe ellid dadlau fod "Mecsico" yn ffurf Gymraeg adnabyddus, ac mai dyma ddylid ei ddefnyddio. Rhion 16:54, 11 Medi 2007 (UTC)Ateb
Ia, Mecsico yw'r dewis naturiol yn fy marn i (os cofiaf yn iawn, fi sy'n gyfrifol am yr enghreifftiau e.e. y categori). Gan ein bod yn griw mor fach dwi'n awgrymu newid pob dim i Mecsico felly, oni bai fod gan rywun wrthwynebiad cryf i hynny. Mae angen cysondeb, beth bynnag. Fy ail dewis yw Mexico: fedra'i ddim meddwl am lawer o Gymry yn defnyddio'r acen "é" yn yr enw. Anatiomaros 17:00, 11 Medi 2007 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Hanes Mecsico".