Sgwrs:Hanes anffyddiaeth

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Sanddef

Angen cywiro. Sanddef 22:31, 8 Mawrth 2010 (UTC)Ateb

Cytuno, ond mae'n rhy hwyr i mi feddwl amdano heno. "Trosedd cyfalaf"? Cosbid anffyddiaeth yn ddrud... Anatiomaros 23:16, 8 Mawrth 2010 (UTC)Ateb

Dw'i'n rhoi'r cynnwys fan hyn ar y dudalen sgwrs am y tro Sanddef 23:21, 8 Mawrth 2010 (UTC)Ateb

Mae yna rai pethau angen eu cywiro - mae'n amlwg mai camgyfieithiad o "capital offence" yn Saesneg yw "trosedd cyfalaf". Yn y darnau y gwn i rywbeth amdanynt, megis Bwdhaeth, alla i ddim gweld dim byd ay'n sylfaenol ffeithiol anghywir yn yr erthygl, er bod modd dadlau ynghylch rhai pwyntiau. Fodd bynnag, gan mai Thaf a greodd yr erthygl, rwy'n credu y byddai'n fater o gwrteisi cysylltu ag ef i drafod y mater cyn gwneud dim byd fel symud yr holl erthygl i'r dudalen sgwrs. Rhion 07:17, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Yn hytrach na symud popeth fel wyt ti wedi gwneud gyda sawl erthygl arall, pam ddim dechrau gyda cywiro'r iaith fesul adran fel mae pawb arall yn ei wneud? Dydy hyn ddim yn adeiladol nac yn gwrtais. Thaf 09:10, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Dwi'm yn gwastraffu amser poeni am deimladau pobl, Thaf. Nid fy mhroblem i ydi hwnna. Os mae erthygl yn hir ac yn anghywir rhaid cael gwared â hi. Cwrtais oedd imi ei symud i'r sgwrs yn lle ei dileu. "Pam ddim dechrau gyda cywiro'r iaith fesul adran"? Pam na wnest tithau wneud hynny yn y lle cyntaf yn lle postio'r erthygl llawn? Sanddef 19:53, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Anodd cywiro fy nhgamgymeriadau fy hun, neu faswn i heb eu gwneud yn y lle cyntaf. Mae gwahaniaeth rhwng cywiro iaith a dileu ffeithiau. Mae ffeithiau gyda iaith gwallus yn well na dim. Croeso i ti gywiro'r iaith fesul adran fel ddwedais i. Dydy dileu llond paragraffau'n help neb. Mae gwneud hynnu heb drafod yn iawn gyntaf yn waeth fyth. Thaf 19:56, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Dydy defnyddio bach o dact ddim yn wastraff amser ychwaith - nid pan mae hon yn brosiect sy'n gofyn am gyd-weithrediad nid gwrthdaro. Thaf 19:58, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Dw'i'm yn cytuno gyda'r honiad bod ffeithiau mewn iaith wallus yn well na dim, nid pan fo'r erthygl yn un hir. Fodd bynnag, y problem fan hyn ydi cystrawen, ac mae'n broblem sydd yn codi pob tro mae rhywun yn ceisio cyfieithu erthyglau hir o'r Saesneg gair-am-air, rhywbeth sy'n digwydd yn ddigon aml ar y Wicipedia. Mae cyfieithu o'r fath yn sgil arbennig, ar wahân i'r gallu i ddefnyddio'r ddwy iaith dan sylw. Dyna pam mae'n well mynd ati fesul adran. Y ffordd orau o gyfieithu erthyglau wicipedia ydi darllen y frawddeg wreiddiol ac ailysgrifennu hi yn lle ceisio ei chyfieithu gair-am-air.Sanddef 20:15, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Gwyddoniadur agored yw hon, ac mae'r fath sgiliau'n brin felly gwnewn y gorau allwn. Dydy dy agwedd di ddim yn helpu. Os cywiro'r cystrawen sydd angen, caria mlaen, ond paid dileu ffeithiau. A cofia drafod unrhywbeth dadleuol. Ti wedi cythruddo digon o gyfrannwyr eisioes yn ddi-angen. Thaf 20:25, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Dw'i eisoes wedi dweud yn ddigon eglur nad ydw i'n gwastraffu amser yn poeni am deimladau pobl. Gwyddoniadur agored ydi hon, nid rhwydwaith gymdeithasol. Os ti ddim isio derbyn fy nghyngor, dy fusnes di ydi hwnna. Yn y cyfamser paid â dileu fy nghywiriadau. Diolch. Sanddef 21:31, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Ond nid cywiriadau wyt ti'n eu gwneud, ond newid y ffeithiau!? Thaf 21:45, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Dim o gwbl hyd y gwelaf i. Nid yw honiadau fel y canlynol ar y dudalen Saesneg er enghraifft yn "ffaith": "The spontaneous proposition that there may be no gods after all is logically as old as theism itself (and the proposition that there may be no God as old as the beginnings of monotheism or henotheism)." (a phwy yn enw Iesu Corbett benderfynodd mai canlyniad "spontaneous proposition" ydi anffyddiaeth?!) Sanddef 18:30, 12 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Hanes anffyddiaeth".