Sgwrs:Hawaieg

(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Hawäieg)
Latest comment: 4 mis yn ôl by Adda'r Yw in topic Didolnod diangen

Didolnod diangen golygu

Credu bod y didolnod yn ddiangen yma.

Mae rhaid ei gadw ar Hawäi os am gael yr ynganiad [haˈwa(ˑ).i] (sy'n dod o'r Saesneg [hə.ˈwaɪ.iː]) yn hytrach na Hawai [ˈhawai / ˈhawaj].

Ond, wrth ychwanegu'r terfyniad fe gewch chi Hawäieg [haˈwa.jɛg] nad yw'n ymarferol wahanol i Hawaieg [haˈwaiɛg / haˈwajɛg]. Does dim eisiau'r didolnod yma gan nad oes eisiau ynganu ffurf lafarog lawn yr i ar wahân fel yn Hawäi.

Rwy'n gwybod bod y ffurf â'r didolnod yng Ngeiriadur yr Academi, ond mae sawl peth yn hen yn hwnna erbyn hyn, e.e. Tsieinëeg, cynorthwy-ydd ac ati.

Byddai hyn yn berthnasol yn y ffurfiau Hawäiad, Hawäiaid, Hawäiaidd > Hawaiad, Hawaiaid, Hawaiaidd hefyd.

Llusiduonbach (sgwrs) 20:38, 22 Ebrill 2014 (UTC)Ateb

Cytuno. Wedi symud. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:26, 5 Rhagfyr 2023 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Hawaieg".